François Fillon
Oddi ar Wicipedia
Prif Weinidog presennol Ffrainc yw François Fillon (ganed 4 Mawrth 1954).
Ganed ef yn Le Mans, ac fel aelod o blaid yr UMP daeth yn Weinidog Llafur dan Jean-Pierre Raffarin yn 2002. Ar 17 Mai 2007 apwyntiodd yr Arlywydd Nicolas Sarkozy ef yn Brif Wenidog. Mae ei wraig, Penelope, yn Gymraes o bentref Llanofer.