Nicolas Sarkozy
Oddi ar Wicipedia
Arlywydd Nicolas Sarkozy | |
23fed Arlywydd Ffrainc
|
|
Deiliad | |
Cymryd y swydd 16 Mai 2007 |
|
Prif Weinidog | François Fillon |
---|---|
Rhagflaenydd | Jacques Chirac |
|
|
Geni | 28 Ionawr 1955 Paris |
Plaid wleidyddol | UMP |
Nicolas Paul Stéphane Sarköczy de Nagy-Bocsa, fel rheol Nicolas Sarkozy (ganed 28 Ionawr 1955) yw arlywydd presennol Ffrainc.
Ganed ef ym Mharis yn fab i fewnfudwr o Hwngari, Pál Sárközy Nagybócsai, a mam Iddewes Ffrengig, Andrée Mallah. Roedd yn aelod o'r Senedd Ewropeaidd o 1999 hyd 2004. Daeth yn weinidog yn y llywodraeth yn 2002. Ef oedd ymgeisydd yr UMP yn etholiad arlywyddol 2007, a gorchfygodd Ségolène Royal yn yr etholiad ar 6 Mai 2007, gyda 53.06% o'r bleidlais. Ar 16 Mai 2007, daeth yn 23ain Arlywydd Ffrainc, yn olynu Jacques Chirac.
Priododd Marie-Dominique Culioli yn 1982, gan gael dau fab, Pierre (1985) a Jean (1987). Ysagarwyd hwy yn ddiweddarach, a phriododd Cécilia Ciganer-Albéniz, gan gael un mab arall, Louis (1997). Ym mis Hydref 2007 cyhoeddwyd eu bod wedi ysgaru. Ar 1 Chwefror 2008 cyhoeddwyd ei fod priodi Carla Bruni.
Vladimir Putin · George W. Bush · Angela Merkel · Stephen Harper ·
Romano Prodi · Yasuo Fukuda · Nicolas Sarkozy · Gordon Brown