Fyrsil
Oddi ar Wicipedia

Yr oedd Publius Vergilius Maro, Fyrsil neu Fferyll yn Gymraeg, (15 Hydref, 70 CC - 21 Medi, 19 CC) yn fardd yn yr iaith Ladin sydd yn fwyaf adnabyddus am gyfansoddi'r arwrgerdd Yr Aeneid. Mae'r gerdd yn efelychu arwrgerddi'r bardd Groeg cynnar Homeros ac yn adrodd hanes yr arwr Aeneas, a ddihangodd o Gaer Droea i sefydlu dinas a oedd yn ragflaenydd i Rufain. Comisiynwyd y gerdd gan yr ymerawdwr Cesar Awgwstws er hyrwyddo'r Ymerodraeth Rufeinig newydd. Mae gwaith arall Fyrsil yn cynnwys yr Eclogae a'r Georgicon.
[golygu] Gwaith Fyrsil
- Bucolica, neu'r Eclogae, mewn 10 llyfr, sy'n bugeilgerddi.
- Georgicon, mewn 4 llyfr, sy'n ymdrin ag amaethyddiaeth.
- Aeneidos, mewn 12 llyfr.
Mae nifer o gerddi llai yn cael eu priodoli iddo dan yr enw Appendicis Vergilianae:
[golygu] Fyrsil yn yr Oesoedd Canol
Yn yr Oesoedd Canol ystyrid Fyrsil yn fardd cynddelwrol a osodododd sylfeini'r grefft farddol. Credid yn ogystal ei fod yn fath o ddewin neu broffwyd a ragwelodd ddyfodiad Crist.
[golygu] Cyfieithiadau
Ym 1636 cyfieithwyd testun gan Fyrsil gan yr awdur a'r dramodydd Syr John Denham, o'r enw The Destruction of Troy, An Essay upon the Second Book of Virgils Æneis, ond ni chafodd ei gyhoeddi tan 1656.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.