Georges Clemenceau
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd radicalaidd o Ffrancwr oedd Georges Benjamin Clemenceau (28 Medi, 1841 - 24 Tachwedd, 1929), a anwyd yn Mouilleron-en-Pareds, Ffrainc.
Roedd yn député yn y cynulliad o 1875 ymlaen ac yn arweinydd y Chwith radicalaidd. Roedd Clemenceau yn areithydd penigamp ac yn enwog am ei huodledd darbwyllol; cafodd ei lysenwi le Tombeur de ministères ("Dymchwelwr gweinidogion") ac, yn ddiweddarach, le Tigre ("y Teigr").
Roedd yn gryf o blaid y radicalwr Dreyfus (1859-1935) a ymgyrchai dros hawliau dynol. Gwasanaethodd fel Arlywydd y Cyngor (Président du Conseil) o 1906 i 1909, pan dorrodd oddi wrth y sosialwyr.
Dychwelodd i rym fel prif weinidog yn 1917 ac ymroddodd yn llwyr i'r Rhyfel Fawr gan ennill cryn boblogrwydd iddo'i hun mewn canlyniad. Cymerodd ran yn y trafodaethau heddwch ar ddiwedd y rhyfel ac arwyddodd Cytundeb Versailles.
Rhagflaenydd: Ferdinand Sarrien |
Prif Weinidog Ffrainc 25 Hydref 1906 – 24 Gorffennaf 1909 |
Olynydd: Aristide Briand |
Rhagflaenydd: Paul Painlevé |
Prif Weinidog Ffrainc 16 Tachwedd 1917 – 20 Ionawr 1920 |
Olynydd: Alexandre Millerand |