Gwenynen Fêl
Oddi ar Wicipedia
Gwenynen Fêl | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() Gwenynen ar flodyn afal
|
||||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||||
|
||||||||||||||||
Rhywogaethau | ||||||||||||||||
A. andrenifloris |
Pryf sydd yn cynhyrchu mêl yw'r wenynen fêl. Mae dyn yn cadw gwenyn ers o leiaf 4 mil o flynyddoedd gan fod yr Eifftiaid yn cadw gwenyn. Mae gwenyn mêl yn casglu neithdar a'i storio yn eu nyth i fod yn fwyd iddynt , yn arbennig yn y gaeaf. Er hwylustod i gasglu'r mêl mae dyn yn rhoi cwch gwenyn iddynt ymgartrefi ynddo. Gwenynwr yw rhywun sydd yn cadw a gofalu am y gwenyn mêl a'r cychod.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bywyd
Mewn drefedigaeth gwenyn mae un mamwenynen, sef brenhines y drefedigaeth sydd yn dodwy wyau a chanoedd o gwenyn ormes, sef gwenyn gwrywol, ond mae gwenyn weithgar neu gweithwreig yn mwyaf niferus. Fel arfer, mae rhwng 40,000 a 80,000 o wenyn yn byw mewn cwch gwenyn yn ystod yr haf, ond llawer llai yn ystod y gaeaf. Mae gwenyn yn cydweithio wrth hel mêl a credir eu bod yn defnyddio "dawns" i hysbysu lleoliad blodau i'r gwenyn eraill.
Mae colyn gan wenynen ac felly gallant bigo, ond fel arfel gwnant hynny ond pan gredant eu bod dan fygythiad.
[golygu] Cynnyrch
[golygu] Paill
Mae gwenyn yn peillio planhigion sydd yn blodeuo a mae ardaloedd ble mae'r pobl yn gosod cwch wenyn ger planhigion masnachol er mwyn gwneud yn siwr fod gwenyn yn gwneud eu gwaith.
[golygu] Mêl
Defnyddir mêl i roi flas ar fwyd. Mae blas mêl yn dibynnu ar y blodau o gwmpas cwch wenyn.
[golygu] Cŵyr gwenyn
Mae'r wenynen weithgar yn cynhyrchu cŵyr gwenyn i aeiladu'r crwybr cŵyr. Defnyddir cŵyr gwenyn i gynhyrchu canhwyllau a chŵyr dodrefn er engraifft..
[golygu] Traddodiadau
Mae gwenyn yn un o ryfeddodau natur a fendithia ddyn ac sy'n ennyn ei gywreinrwydd. Ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf atynt yn y Gymraeg yn y gerdd fytholegol Cadair Taliesin: 'Pan yw dien gwlith / a llad gwenith / a gwlith gwenyn / anglud ac ystor' (Llyfr Taliesin, 32.6-7, wedi'i ddiweddaru ychydig). Yn fuan iawn yn hanes y ddynoliaeth daeth dyn i werthfawrogi mêl gwyllt fel ffordd o felysu bwyd a hefyd, yn ddiwedarach, i wneud y ddiod gadarn gyntaf (yn ogledd Ewrop), sef medd. Credid mai 'bwyd y duwiau' oedd mêl oherwydd ni wyddai neb sut y'i cynhyrchwid.[1]
Yn yr Oesoedd Canol credai Cristnogion fod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng gwenyn, Paradwys a phechod dyn, fel y mae awdur Llyfr Cyfnerth yn esbonio: 'Bonhedd gwenyn o paradwys pan yw ac o achaws pechawt dyn y doethant odyno ac y dodes Duw y rat arnunt; ac wrth hynny ny ellir canu efferen heb y cwyr'.[2] Credid bod gwenyn yn moliannu Crist yn blygeiniol ar fore'r Nadolig.[3] Ond mae gwreiddiau'r goel Gristnogol i'w cael mewn traddodiad paganaidd hŷn. Yn ardal Abergele ar ddiwedd y 19 ganrif, yn ôl y bardd T. Gwynn Jones, gelwid 'crŵn gwenyn a chacwn a mân wybed eraill... yn "ganu'r Tylwyth Teg". Ym mhen blynyddoedd, deuthum i wybod ei fod yn hysbys yn Iwerddon wrth enw tebyg, "ceol sidhe", canu'r Tylwyth Teg.'[4] Naturiol, felly, oedd cyffelybu'r beirdd i wenyn. Mae Dafydd Nanmor yn cyfeirio at y beirdd a ymdyrrai i lys Rhys o'r Tywyn 'i gany fal mêl gwenyn'[5] Dywed Tudur Aled fod y Glêr (mân-feirdd neu feirdd crwydrol) yn heidio fel gwenyn i lys y Deon Cyffin: 'Nid amlach gwenyn i'r glyn no'r Glêr'[6] Credid bod gwenyn yn rhoddi rhagfynegiad o farwolaeth y penteulu naill ai trwy farw yn y cwch gwenyn neu gilio ohono. [7] Credid hefyd fod yna gysylltiad rhwng gwenyn a chorff Abel, brawd Cain, fel yn yr englyn hwn gan Bleddyn Ddu: 'Cwning can nwsing. cywion isel - cainc, / Cyrff ifainc craff afel; / Cnwd o wybed cnawd Abel, / Cario maen' y cwyr a'r mêl'.[8]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ gw. Marged Haycock, 'Canu y Medd o Lyfr Taliesin', Dwned 1 (1995), 7-24, am drafodaeth.
- ↑ Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), Drych yr Oesoedd Canol, Caerdydd 1986, t. 165.
- ↑ John Jones (Myrddin Fardd), Llen Gwerin Sir Gaernarfon, Caernarfon, d.d.=1908, t. 144, 268
- ↑ T. Gwynn Jones, Brithgofion, Llandebie, 1944, t. 10.
- ↑ Thomas Roberts (gol.), The Poetical Works of Dafydd Nanmor, Cardiff 1928, II.32.
- ↑ T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, Caerdydd 1926, VIII.21; cf. LI.51-2.
- ↑ gw. Evan Isaac, Coelion Cymru, Aberystwyth 1938, t. 84.
- ↑ R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Bleddyn Ddu, Aberystwyth 1994, cerdd 9. Ymhellach ar wenyn yn llên yr Oesoedd Canol yn gyffredinol, gweler Drych yr Oesoedd Canol t. 163-5. a hefyd T. Charles-Edwards & F. Kelly (ed.), Bechbretha: An Old Irish Tract on Beekeeping, Dublin 1983, tt. 192-205.