Gwilym R. Jones
Oddi ar Wicipedia
Bardd a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am dros 25 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (1903 - 1993). Cafodd ei fagu yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gyrfa
Dechreuodd ei waith fel newyddiadurwr ar staff Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon cyn symud i Faner ac Amserau Cymru yn 1945. Cyhoeddodd pum cyfrol o gerddi ynghyd â dwy nofel fer, Y Purdan (1942) a Seirff yn Eden (1963). Yn yr Eisteddfod Genedlaethol enillodd y Gadair yn 1938, y Goron (1935) a'r Fedal Ryddiaith (1941). Bu farw yn 1993 yn ddeg ar bedair ugain oed.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Barddoniaeth
- Caneuon (1935)
- Cerddi (1969)
- Y Syrcas (1975)
- Y Ddraig (1978)
- Eiliadau (1981)
[golygu] Rhyddiaith
- Y Purdan (1942)
- Seirff yn Eden (1963)