Gwrth-Ddiwygiad
Oddi ar Wicipedia
Mudiad o fewn yr Eglwys Gatholig wedi'i ymgysegredu i frwydro yn erbyn canlyniadau'r Diwygiad Protestannaidd a'u dadwneud trwy ddiwygio camarferion yn yr Eglwys a dileu heresïau, ac ati, oedd y Gwrth-Ddiwygiad (neu'r Gwrth-Ddiwygiad Catholig). Gellid dadlau iddo ddechrau'n ffurfiol gyda Chyngor Trent (1545 - 1563), a agorwyd gan y Pab Pawl III yn unswydd er mwyn adgyfnerthu'r Eglwys yn wyneb y datblygiadau chwyldroadol yng ngwleydd Protestannaidd gogledd Ewrop.
Roedd ceisio adfer "Yr Hen Ffydd" yn y gwledydd Protestannaidd newydd, fel Lloegr, Cymru, Yr Iseldiroedd a gwladwriaethau gogledd Yr Almaen yn rhan ganolog o'i strategaeth.
Roedd y Gwrth-Ddiwygiad ar ei anterth yn ail hanner yr 16eg ganrif ond parhaodd hyd ganol y ganrif olynol. Gwelwyd sefydlu Cymdeithas yr Iesu (y Jeswitiaid) a'i datblygu i fod yn gorff cenhadol a anfonai offeiriad i bob rhan o'r byd, o Beriw i Tsieina a Siapan, ymestyn y Chwil-lys i wledydd eraill fel Sbaen a'r Amerig, a cheisio adfer bywyd ysbrydol a seiliau athronyddol yr Eglwys.
Ar waethaf yr erlyd dan Elisabeth I o Loegr ceisiodd y Catholigion wrthsefyll Protestaniaeth. Roedd angen cael cenhadon cyfrinachol i efengylu yng Nghymru a Lloegr. Mewn canlyniad sefydlwyd Coleg Douai yn Ffrainc i'w hyfforddi.
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.