Helyntion Beca
Oddi ar Wicipedia
Gwrthryfel gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg oedd Helyntion Beca (hefyd Becca). Trawodd Beca gyntaf yn Efail-wen ar yr 13 Mai 1839, gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y 6 Mehefin yn yr un flwyddyn ac eto ar yr 17 Gorffennaf. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr 1843 a gwanwyn 1844 ledled de-orllewin Cymru. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd y dynion yn gwisgo dillad merched fel na fyddai neb yn eu hadnabod ac mae'r enw Rebecca yn gysylltiedig ag adnod 60 yn Genesis 24. 'Merched Rebecca' neu 'Ferched Beca' oedd yr enw arnyn nhw ar lafar. Sonnir am Twm Carnabwth fel un o'u harweinwyr.
Achos yr helynt oedd y Turnpike Trusts newydd. Roedd rhaid talu i deithio ar hyd y ffyrdd. Roedd 'na ddeuddeg o nhw yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn Sir Benfro, dau yn Sir Aberteifi, dau yn Sir Faesyfed, un yn Sir Frycheiniog a deuddeg ym Morgannwg. Roedden nhw'n amhoblogaidd iawn yn arbennig gan ffermwyr oedd yn gorfod talu i yrru'r gwartheg hyd nhw.
[golygu] Darllen pellach
- The Rebecca Riots, David Williams, Gwasg Prifysgol Caerdydd, ISBN 0-7083-0933-X
- And they blessed Rebecca, Pat Molloy, Gwasg Gomer, ISBN 0-86383-031-5