Howell Elvet Lewis (Elfed)
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Elfed.
Bardd ac emynydd oedd Howell Elvet Lewis (1860 - 1953), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Elfed. Fe'i ganed ym mhentref Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn weinidog ac, am gyfnod, yn Archdderwydd (1924-1928). Mae ei waith barddonol yn nodweddiadol o gynnyrch y Bardd Newydd.
Ymhlith cerddi mwyaf adnabyddus Elfed y mae 'Gwyn ap Nudd' (telyneg am Gwyn ap Nudd, brenin y Tylwyth Teg) ac 'Y Ddau Frawd'. Ar y cyfan ni phrisir ei farddoniaeth lawer heddiw oherwydd tuedd y bardd at sentimentaliaeth ramantaidd. Enillodd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1888 ac 1891, a'r Gadair yn 1894.
Ysgrifenodd nifer o emynau yn Gymraeg a Saesneg. Fel hanesydd llên, cyhoeddodd gyfrolau ar waith Ceiriog, Morgan Rhys ac Ann Griffiths.
[golygu] Llyfryddiaeth ddethol
[golygu] Gwaith Elfed
- My Christ and other poems (1891). Cerddi.
- Planu Coed (1894). Ysgrifau.
- Caniadau (2 gyfrol: 1895, 1901). Cerddi.
- Songs of Assisi (1938). Cerddi.
- Gyda'r Hwyr (1945). Ysgrifau.
[golygu] Cofiant
Cyhoeddwyd cofiant iddo gan Emlyn G. Jenkins yn 1957.