Huntingdon
Oddi ar Wicipedia
Huntingdon
|
|
---|---|
[[Delwedd:|200px|center]] | |
Swydd Huntingdon (ardal)
|
|
[[Delwedd:|200px|center]] | |
Lleoliad Huntingdon | |
Sir seremonïol | Swydd Gaergrawnt |
Sir hanesyddol | {{{sir_hanesyddol}}} |
Daearyddiaeth
|
|
Arwynebedd | km² |
Demograffeg
|
|
Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) | 20,099 |
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) | ddim ar gael |
Gwleidyddiaeth
|
|
Aelod seneddol | Jonathan Djanogly (Ceid.) |
Tref yn nwyrain Lloegr yw Huntingdon. Yn hanesyddol, tref sirol Swydd Huntingdon oedd hi, ond adeg ail-drefnu llywodraeth leol ym 1965 a 1974, cyfunwyd Swydd Huntingdon, Peterborough a Swydd Gaergrawnt. Maent bellach yn rhan o sir seremonïol Swydd Gaergrawnt. Mae tref Huntingdon yn dal i weithredu fel canolfan weinyddol ardal Swydd Huntingdon gynt. Mae tua 20,000 o bobl yn byw yn y dref. Saif ar Afon Ouse Fawr yn agos i drefi marchnad eraill yr ardal, St Ives a St Neots. Ganwyd Oliver Cromwell yn y dref yn 1599, ac fe'i cynrychiolodd yn Nhŷ'r Cyffredin am ddwy flynedd o 1628 i 1629. Lleolir Amgueddfa Cromwell yn ei hen ysgol ramadeg yng nghanol Huntingdon. Ei thrigolyn enwog arall yw John Major, prif weinidog Prydain o 1990 tan 1997, ac aelod seneddol dros Swydd Huntingdon o 1979 i 1983 a thros Huntingdon o 1983 i 2001.