Peterborough
Oddi ar Wicipedia
Peterborough
|
|
---|---|
Dinas Peterborough (awdurdod unedol)
|
|
Lleoliad Peterborough | |
Sir seremonïol | Swydd Gaergrawnt |
Sir hanesyddol | {{{sir_hanesyddol}}} |
Daearyddiaeth
|
|
Arwynebedd | 343.4 km2 km² |
Demograffeg
|
|
Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) | 156,061 |
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) | 159,700 |
Gwleidyddiaeth
|
|
Aelod seneddol | Stewart Jackson |
Dinas yn nwyrain Lloegr yw Peterborough. Mae'n cael ei gweinyddu bellach fel awdurdod unedol. Yn hanesyddol mae'n rhan o Swydd Northampton, ond mae'n rhan o sir seremonïol Swydd Gaergrawnt. Saif ar Afon Nene, 119km / 74 o filltiroedd i'r gogledd o Lundain. Mae'r awdurdod unedol yn ffinio â Swydd Northampton, Swydd Lincoln a Swydd Gaergrawnt. Mae 159,700 o drigolion yn byw yn awdurdod unedol Peterborough (amcangyfrif canol 2005) (156,061, Cyfrifiad 2001).
[golygu] Hanes
Tan 1888 gweinyddwyd Peterborough gan swyddogion y ddinas (Marcwis Caerwysg, ceidwad y rholiau, ynadon ac uchel feili a benodwyd gan ddeon a chapidwl yr eglwys gadeiriol) yn annibynol o Swydd Northampton. Yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1888, gwnaethpwyd y Soke of Peterborough yn sir weinyddol ar ei phen ei hun. Roedd yn sir fechan o ran poblogaeth, felly fe'i hunwyd â Swydd Huntingdon yn 1965 i greu sir newydd Huntingdon and Peterborough. O 1974 tan 1998 roedd yn cael ei gweinyddu fel rhan o Swydd Gaergrawnt, ac mae'n dal yn rhan o sir seremoniol Swydd Gaergrawnt.
[golygu] Gefeilldrefi
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.