Huw T. Edwards
Oddi ar Wicipedia
Undebwr llafur a gwleidydd sosialaidd a chenedlaetholgar oedd Huw T. Edwards (19 Tachwedd 1892 - 8 Tachwedd 1970).
Ganed ef yn Ro-wen, Dyffryn Conwy. Cafodd farwolaeth ei fam pan oedd yn wyth mlwydd oed gryn effaith arno a chafodd fawr o addysg o werth. Gweithiodd ar ffermydd ac yn chwareli ithfaen yr ardal cyn mudo i dde Cymru yn 1909, lle y bu'n gweithio yn y pyllau glo. Bu'n filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei glwyfo yn 1918. Wedi hynny dychwelodd i fyw i'r gogledd, gan weithio yn chwareli ithfaen ardal Penmaenmawr.
Yn yr 1920au daeth yn swyddog undeb, yn drefnydd etholiadol gyda'r Blaid Lafur ac yn gynghorydd tre. Yn 1932 cafodd swydd gyda'r TGWU gan symud i fyw i Shotton, Sir y Fflint. Am gyfnod maith roedd yn un o'r dynion mwyaf dylanwadol yn y mudiad llafur yng ngogledd Cymru.
Penodwyd ef yn gadeirydd Cyngor Cymru a Mynwy yn 1949 gan aros yn y swydd tan ei ymddiswyddiad dadleuol yn 1958. Yn 1959 gadawodd y Blaid Lafur ac ymuno a Phlaid Cymru, ond dychwelodd i'w hen blaid yn 1965.
Roedd wedi dadlau o blaid sefydlu senedd i Gymru er 1944. Yn ystod cyfnod ei gadeiryddiaeth o Gyngor Cymru, pwyswyd ar y llywodraeth Geidwadol i sefydlu'r swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ni lwyddwyd i wireddu hyn yn yr 1950au ond yn 1964 sefydlwyd y swydd gan y llywodraeth Lafur a etholwyd yn y flwyddyn honno.
Bu'n gyfarwyddwr y cwmni teledu masnachol TWW ac yr oedd ymhlith y cyntaf i alw am sefydlu sianel deledu Gymraeg. Yn 1956 achubodd y papur newydd Y Faner a oedd mewn trafferthion ariannol.
Bu farw yn 1970. Gosodwyd cofeb iddo yn Ro-wen yn 1992.
[golygu] Llyfryddiaeth
Cyhoeddodd ddwy gyfrol hunangofiannol:
- Tros y Tresi (1956)
- Troi'r Drol (1963)
Cyhoeddwyd cofiant iddo yn 2007:
- Gwyn Jenkins: Prif Weinidog Answyddogol Cymru: cofiant Huw T Edwards (Y Lolfa, 2007)