Iona Jones
Oddi ar Wicipedia
Iona Jones yw Prif Weithredwr S4C.
Dechreuodd ei gyrfa ym myd darlledu fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru, gan ddod yn olygydd Taro Naw a Newyddion yn ddiweddarach, y ddwy yn cael eu cynhyrchu gan y BBC i S4C. Ymunodd Iona ag S4C gyntaf ym 1995 fel Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol. Symudodd i ITV Wales yn 2000, lle cynrychiolodd holl gwmnïau rhanbarthol Carlton ledled y DG mewn perthynas â'r Ddeddf Ddarlledu a materion strategol eraill. Dychwelodd i S4C ym mis Medi 2003 fel Cyfarwyddwr Rhaglenni.
Ganed yn Hwlffordd, Sir Benfro, ac fe'i magwyd yn Llanbedr Pont Steffan cyn symud gyda'i theulu i Gaerdydd yn chwech oed. Mynychodd Ysgol Gymraeg Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari cyn astudio Hanes Economaidd a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Caerwysg. Cwblhaodd Ddiploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth yng Nghanolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.
Mae'n briod ac yn fam i dri o blant.