Italica
Oddi ar Wicipedia

Amffitheatr Italica
Sefydlwyd dinas Rufeinig Italica (i'r gogledd o Santiponce heddiw, 9 km i'r gogledd-orllewin o Seville, Sbaen) yn y flwyddyn 206 C.C. gan y cadfridog Rhufeinig Scipio Africanus fel trefedigaeth ar gyfer y milwyr Rhufeinig a anafwyd ym Mrwydr Ilipa, lle gorchfygwyd byddin Carthage yn ystod yr Ail Ryfel Punig. Rhoddwyd yr enw Italica ar y ddinas newydd er mwyn atgoffa'r hen filwyr (colonia) o'u gwreiddiau Eidalaidd a'u cadw'n driw i'r ymerodraeth.
Ganwyd yr ymerodron Rhufeinig Trajan a Hadrian yn Italica.
Yn ddiweddarach codwyd amffitheatr anferth yn y ddinas, gyda digon o le i tua 25,000 o bobl, drydedd fwyaf yn yr ymerodraeth.
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i: