John Ceiriog Hughes
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Ceiriog (gwahaniaethu).
Bardd o Gymro oedd John Ceiriog Hughes (25 Medi, 1832 - 23 Ebrill, 1887), a aned yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Dan ei enw barddol adnabyddus Ceiriog yr oedd efallai y mwyaf poblogaidd a dylanwadol o feirdd Cymru yn ail hanner y 19eg ganrif. Roedd yn gyfaill i R. J. Derfel, Creuddynfab ac Idris Fychan.
Bardd telynegol oedd Ceiriog. Canai ar yr hen alawon Cymreig. Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd yn Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858 am rieingerdd, Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Bran. Mae rhai o'i gerddi yn aros yn boblogaidd heddiw, er enghraifft Dafydd y Garreg Wen, Nant y Mynydd, a'r dilyniant o gerddi Alun Mabon gyda'u llinellau enwog am barhad cenedl y Cymry dros y canrifoedd,
- Aros mae'r mynyddau mawr,
- Rhuo trostynt mae y gwynt.
Er bod ei ganeuon yn bruddglwyfus a sentimental yn ôl safonau diweddar, medrai ysgrifennu rhyddiaith ddychanol hefyd, gan ddychanu sefydliadau fel yr Eisteddfod a thuedd amlwg yr oes at barchusrwydd a lledneisrwydd, yn arbennig yn y cyfrolau Gohebiaethau Syr Meurig Crynswth.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Llyfrau Ceiriog
- Gohebiaethau Syr Meurig Crynswth (1856-1858; gol. Hugh Bevan, 1948)
- Oriau'r Hwyr (1860)
- Oriau'r Bore (1862)
- Cant o Ganeuon (1863)
- Y Bardd a'r Cerddor (1865)
- Oriau eraill (1868)
- Oriau'r Haf (1870)
- Oriau Olaf (1888)
[golygu] Beirniadaeth ac astudiaethau
- Saunders Lewis, Yr Artist yn Philistia I: Ceiriog (1929)
- W. J. Gruffydd, Ceiriog (1939)