John Trefor II
Oddi ar Wicipedia
Roedd John Trefor neu John Trevaur (bu farw 1410) yn Esgob Llanelwy rhwng 1394 a 1408.
Ei enw gwreiddiol oedd Ieuan; yn ddiweddarach cymerodd y ffurf Seisnig John a mabwysiadu'r cyfenw Trefor. Yr oedd ei frawd Adda yn briod â chwaer Owain Glyndŵr, ac apwyntiodd Owain ef yn lysgennad at frenin Ffrainc.
Yn 1408 penodwyd ef yn esgob Cill Rìmhinn (Saesneg: St Andrews) yn Yr Alban. Ni allodd gymeryd meddiant o'r esgobaeth, gan fod dau Bab yn gwrthwynebu ei gilydd yn y cyfnod yma, un yn Rhufain a'r llall yn Avignon. Apwyntiwyd John Trefor i esgobaeth Llanelwy gan y Pab yn Rhufain, ond Pab Avignon yr oedd yr Alban yn ei gydnabod. Bu farw yn Rhufain ar 10 Ebrill 1410.