Gwlad yr Iâ
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Dim | |||||
Anthem: Lofsöngur | |||||
Prifddinas | Reykjavík | ||||
Dinas fwyaf | Reykjavík | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Islandeg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd • Prif Weinidog |
Ólafur Ragnar Grímsson Geir Haarde |
||||
Annibyniaeth - Sofraniaeth |
Oddiwrth Ddenmarc 26 Hydref 1955 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
103,000 km² (107fed) 2.7 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2008 - Cyfrifiad 1980 - Dwysedd |
313,376 (178fed) 229,187 2.9/km² (222fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $10.53 biliwn (135fed) $35,586 (5fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.956 (2il) – uchel | ||||
Arian cyfred | Króna Gwlad yr Iâ (ISK ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
GMT (UTC+0) | ||||
Côd ISO y wlad | .is | ||||
Côd ffôn | +354 |
Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Gwlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng Grønland a Phrydain Fawr.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ymsefydlodd Norwy-wyr yng Ngwlad yr Iâ gyda'u caethweision o'r Alban ac Iwerddon yn hwyr yn y 9fed ganrif a'r 10fed. Nhw sefydlodd y Senedd hynaf yn y byd, yr Althing, yn y flwyddyn 930.
Roedd Gwlad yr Iâ yn annibynol am dros 300 mlynedd, ond cyn hir daeth o dan reolaeth Norwy a Denmarc. Sefydlwyd rheolaeth cartref ym 1874, ac annibyniaeth ym 1918. Arhosodd brenin Denmarc, Christian X, yn frenin ar Wlad yr Iâ tan 1944 pan sefydlwyd gweriniaeth.
[golygu] Gwleidyddion
Mae gan yr Althing 63 o aelodau, a etholir pob pedair mlynedd. Y Prif Weinidog sy'n bennaeth ar y llywodraeth, tra bod yr arlywydd, a etholir am 4 mlynedd, yn penodi'r Prif Weinidog.
[golygu] Etholaethau
[golygu] Cymunedau
[golygu] Siroedd
Mae Gwlad yr Iâ yn cynnwys 23 o siroedd, neu sýslur:
- Árnessýsla
- Austur-Barðastrandarsýsla
- Austur-Húnavatnssýsla
- Austur-Skaftafellssýsla
- Borgarfjarðarsýsla
- Dalasýsla
- Eyjafjarðarsýsla
- Gullbringusýsla,
- Kjósarsýsla
- Mýrasýsla
- Norður-Ísafjarðarsýsla
- Norður-Múlasýsla
- Norður-Þingeyjarsýsla
- Rangárvallasýsla
- Skagafjarðarsýsla
- Snæfellsnes-og Hnappadalssýsla
- Strandasýsla
- Suður-Múlasýsla
- Suður-Þingeyjarsýsla
- Vestur-Barðastrandarsýsla
- Vestur-Húnavatnssýsla
- Vestur-Ísafjarðarsýsla
- Vestur-Skaftafellssýsla
Heblaw'r siroedd, mae yna 14 o drefi annibynol, neu kaupstaðir:
- Akranes
- Akureyri
- Hafnarfjörður
- Húsavík
- Ísafjörður
- Keflavík
- Kópavogur
- Neskaupstaður
- Ólafsfjörður
- Reykjavík
- Sauðárkrókur
- Seyðisfjörður
- Siglufjörður
- Vestmannaeyjar
[golygu] Daearyddiaeth
Mae Gwlad yr Iâ ar smotyn poeth daearegol ar y Crib Canol-Iwerydd. Mae yna lawer o losgfynyddoedd, yn enwedig Hekla. Hyd heddiw mae llosgfynyddoedd yn cael eu creu -- crëwyd ynys newydd Surtsey ar ôl ffrwydrad ar 14 Tachwedd 1963. Mae tua 10% o'r ynys o dan iâ, ac mae ei rhewlifoedd yn enwog ar draws y byd. Mae gan y wlad llawer o geysir (gair Islandeg), ac mae ynni daearthermol yn rhoi dŵr poeth a gwres cartref rhad yn y trefi.
Mae mwyafrif y trefi ar lan y môr. Y prif drefi yw Reykjavík, Keflavik -- lleoliad y maes awyr cenedlaethol -- ac Akureyri.
[golygu] Economi
Mae'r diwydiant pysgota yn bwysig iawn i'r economi. Mae 60% o enillion allforion y wlad a swyddi 8% o'r gweithlu yn dibynnu arno. Y prif allforion yw pysgod, alwminiwm a ferrosilicon.
Mae mwyafrif yr adeiladau wedi eu adeiladu o goncrit gan fod mewnforio pren yn ddrud. Yn y 1990au dewisodd llywodraeth Gwlad yr Iâ amrywio'r economi drwy ganolbwyntio mwy ar ddiwydiannau gwneuthur a gwasanaeth, gyda datblygiadau ym miotechnoleg, gwasanaethau ariannol, a chynhyrchiad meddalwedd. Mae twristiaeth hefyd yn dod yn fwy pwysig.
[golygu] Daearyddiaeth
Mae geneteg pobl Gwlad yr Iâ yn debyg ac yn unigryw hyd heddiw, gan nad oes llawer o fewnlifo wedi digwydd dros y canrifoedd. O ganlyniad mae gwyddonwyr ar draws y byd yn astudio pobl yr ynys er mwyn darganfod mwy am etifeddu genynnau.
[golygu] Diwylliant
Iaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther.
O Wlad yr Iâ daw'r gantores pop Björk, Magnús Scheving o'r raglan deledu Lazytown, a'r nofelydd Halldór Laxness, enillwr Gwobr Nobel am lenyddiaeth ym 1955.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Iceland.org
- (Saesneg) The Trade Council of Iceland
|
|
---|---|
Aelodau | Yr Almaen · Gwlad Belg · Bwlgaria · Canada · Denmarc · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Estonia · Ffrainc · Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · Yr Iseldiroedd · Latfia · Lithuania · Lwcsembwrg · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · Sbaen · Slofacia · Slofenia · Y Weriniaeth Tsiec · Twrci · Yr Unol Daleithiau |
Ymgeiswyr | Albania · Croatia · Georgia · Gweriniaeth Macedonia |