Mabon ap Gwynfor
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd ifanc o Gymro yw Rhodri Mabon ap Gwynfor (ganed 6 Awst 1978).
Mae'n fab i Guto Prys a Sian Elis ap Gwynfor, yn frawd i Lluan Heledd ap Gwynfor ac yn wyr i'r gwleidydd enwog Gwynfor Evans (Y Barri) a Rhiannon Evans (Lerpwl/Llanuwchllyn) ac Ellis Richards (Gwynfe) a Muriel Richards (Dyffryn Ceidrych, adnabyddir heddiw fel Bethlehem).
Priododd Mabon a Nia Meleri Roberts, Cynwyd, merch Giff (Gruffydd) Roberts (Cynwyd) a Hefina Roberts (Dinas Mawddwy), yn 2006. Ganwyd eu mab, Elis Gruffydd ap Gwynfor, fis Tachwedd 2007.
Yn fab i weinidog gyda'r Annibynwyr, bu i Mabon symud cartref amryw o weithiau yn ystod ei blentyndod. Treiliodd ei blentyndod o ogledd Ceredigion, i Ddyfryn Teifi i lawr i Gwm Tawe, gyda chyfnod byr yn Guyana wrth i'r teulu fynd fel cenhadon Cristnogol yno yn 1990.
Addysgwyd ef yn ysgolion cynradd Tal-y-Bont a Cwmann, ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi, Gwyr, ac Ystalyfera, a Phrifysgol Cymru Bangor.
Fe'i etholwyd fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr ym Mangor yn 2000. Gweithiodd fel Swyddog i'r Wasg i Simon Thomas, AS Ceredigion, ac Elin Jones, AC Ceredigion cyn mynd ymlaen i fod yn bennaeth cyfathrebu Antur Teifi. Wedi hynny fe'i benodwyd fel Rheolwr Tŷ Siamas - Canolfan Cenedlaethol i Gerddoriaeth Traddodiadol Cymru a agorodd ei ddrysau ar Mehefin 14 2007.
Gweithiodd yn ddiwyd dros yr ymgyrch 'Ie Dros Gymru' yn 1997, a gweithiodd yn wirfoddol am hanner blwyddyn ar ymgyrch Rhodri Glyn Thomas yn ystod etholiadau San Steffan 1997.
Cynrychiolodd Blaid Cymru ar sawl lefel pan yn fyfyriwr prifysgol.
Roedd yn ymgeisydd i'r Blaid ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion yn 2004, a Chyngor Tref Aberteifi yn yr un flwyddyn. Collodd etholiad y Cyngor Sir, ward Llanfarian o 20 o bleidleisiau i'r Cynghorydd Alun Lloyd Jones, cyn gynghorydd i Blaid Cymru a ymadawodd i ymuno a'r grwp annibynol ar y Cyngor Sir rai blynyddoedd ynghynt. Ennillodd ei le ar y Cyngor Tref yn y ward ganol, cyn gorfod ymddiswyddo yn 2007 oherwydd ei fod wedi symud i Ddolgellau. Roedd yn ymgeisydd seneddol i'r Blaid ym Mrycheiniog Maesyfed yn 2005, gan ennill 1404 o bleidleisiau.
Rhoddodd ei enw ymlaen ar gyfer enwebiad Plaid Cymru yng Ngheredigion yn 2007, ond fe'u gurwyd gan y Cynghorydd Penri James (ward Tirmynach), cyn arweinydd grwp y Blaid ar Gyngor Ceredigion, a chyn gynghorydd yn Nyfed hefyd. Roedd Mabon yn un o gyd-sylfaenwyr CymruX - adain ieuenctid Plaid Cymru.
Mae'n Gristion o argyhoeddiad ac yn cymryd cryn ddiddordeb mewn materion o heddwch, gan ymgyrchu yn frwd yn erbyn rhyfeloedd. Mae'n gyn drefnydd i Ŵyl Heddwch Aberystwyth.