Gwynfe
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Gwynfe. Saif mewn dyffryn yn ne-ddwyrain y sir, rhwng Trichrug a lethrau gorllewinol y Mynydd Du. Mae'r pentref, a adnabyddir weithiau fel Capel Gwynfe hefyd, yn sefyll fymryn i'r gorllewin o lôn yr A4069, tua hanner ffordd rhwng Brynaman i'r de a Llangadog i'r gogledd. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
[golygu] Enwogion
Treuliodd y llenor ac ymgyrchydd gwleidyddol Beriah Gwynfe Evans (1848 - 1927) rhan helaeth o'i oes yno, a mabwysiadodd enw'r pentref yn ei enw ei hun. Cafodd swydd fel ysgolfeistr yn ysgol y pentref.
Ganed y casglwr llawysgrifau Cymreig Syr John Williams, cymwynaswr mawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ei sefydliad, yn ffermdy'r Beili, yng Ngwynfe, yn 1840.
Cafodd tri o genhadwyr mwyaf adnabyddus Cymru'r 19eg ganrif eu geni yn y pentref, sef William Griffith, David Williams a David Griffiths (Madagascar).
[golygu] Ffynhonnell
- Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Llyfrau'r Dryw, 1955; arg. newydd, 1970)