Malcolm Pryce
Oddi ar Wicipedia
Awdur yn yr iaith Saesneg yw Malcolm Pryce (ganwyd ym 1960, yn yr Amwythig), sy'n ysgrifennu nofelau ditectif noir yn arddull Raymond Chandler, heblaw ei fod yn symud y straeon o Los Angeles i Aberystwyth — ond Aberystwyth mewn rhyw fydysawd arall lle mae derwyddon yn troseddu, lle mae bechgyn y dref yn diflannu mewn amgylchiadau rhyfedd, a lle mae gan y dref ddiwydiant ffilm, yn cynhyrchu ffilmiau 'Beth Welodd y Bwtler'. Arwr y straeon yw Louie Knight, ditectif preifat gorau tref Aberystwyth (hefyd, yr unig dditectif preifat yn Aberystwyth...).
Ar ôl gyrfa fer fel "gwerthwr aliwminiwm gwaetha'r byd", bu Pryce yn ysgrifennwr copi yn y byd hysbysebu yn Llundain a Singapore, ac mae e'n byw yn Bangkok, Gwlad Thai ar hyn o bryd.
[golygu] Llyfrau
- Aberystwyth Mon Amour, 2001, Bloomsbury Publishing, ISBN 0-7475-5786-1
- Last Tango in Aberystwyth, 2003, Bloomsbury Publishing, ISBN 0-7475-6676-3
- The Unbearable Lightness of Being in Aberystwyth, 2005, Bloomsbury Publishing, ISBN 0-7475-7712-9