Maredudd ab Owain Glyndŵr
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Maredudd ab Owain Glyndŵr, neu Maredudd ab Owain ap Gruffudd (fl. diwedd y 14eg ganrif - chwarter cyntaf y 15fed ganrif), yn fab i Margaret Hanmer ac Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru a disgynydd o deulu brenhinol Powys Fadog, arweinydd gwrthryfel mawr 1400-c.1416 i ennill annibyniaeth i Gymru ar Loegr. Fel yn achos gweddill plant Owain Glyndŵr, ychydig o ffeithiau cadarn sydd gennym ni am Faredudd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y gwrthryfel
Ni wyddys dim o gwbl am ran Maredudd yng ngwrthryfel ei dad, ond gellid tybied ei fod yn bresennol wrth ochr y tywysog ar sawl achlysur yn y cyfnod 1400-1409. Mae'n ddigon posibl yn ogystal iddo dreulio ran o leiaf o'r cyfnod rhwng diflannu Glyndŵr o'r cofnodion ar ôl cwymp castell Harlech a thua 1414 yn llochesu gyda'i dad rywle yng Nghymru neu'r gororau.
[golygu] Dial
Credir i Faredudd ymladd ar ochr y Ffrancod yn erbyn byddin Seisnig Harri V o Loegr ym mrwydr Agincourt yn 1415.
Erbyn 1416 yr oedd yn ôl yng ngogledd Cymru yn ceisio ail-gynneu'r gwrthryfel gyda llu o Albanwyr.
[golygu] Gwrthod pardwn brenhinol
Gwyddys iddo wrthod derbyn pardwn brenhinol gan frenin Lloegr iddo fo ei hun a'i dad y flwyddyn ganlynol, 1417, a gynigiwyd iddo gan swyddogion Harri V.
Yn 1420 cafodd John o Gaerhirfryn, Dug 1af Bedford, brawd iau y brenin Harri V, ei awdurdodi i drafod termau gyda Maredudd ab Owain ar ran y brenin, ac i ofyn iddo ystyried gwasanaethu ym myddin brenin Lloegr yn Normandi, mewn cyfnewid am bardwn. Gwrthododd Maredudd.
Ond ar 8 Ebrill, 1421, derbyniodd bardwn, iddo fo ei hun ; ffaith sy'n awgrymu efallai fod ei dad yn farw erbyn hynny. Buasai Owain Glyndŵr ymhell yn ei chwedegau erbyn hynny, pe bai dal yn fyw ; gwth o oedran yn yr Oesoedd Canol.
Ni wyddys be ddigwyddodd i Faredudd ar ôl 1421. Yn union fel ei dad, mae'r gwrthryfelwr gwydn hwn yn diflannu o dudalennau hanes.
Y flwyddyn ganlynol bu farw Harri V ei hun, o ddisentri, wrth ymgyrchu yn Ffrainc.
[golygu] Llyfryddiaeth
- R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995)