Mecca
Oddi ar Wicipedia
Dinas sanctaidd yn ardal Hijaz, talaith Al-Harama, yng ngorllewin Sawdi Arabia yw Mecca, neu Makkah (Makkah al-Mukarrama) fel y gelwir hi yn Arabeg. Dyma grud y grefydd Islamaidd. Mae'r ddinas yn gyrchfan bererindota bwysig i Fwslemiaid, yn arbennig yn ystod yr Hajj flynyddol pan dyrr mwy na filiwn o bererinion o bob cwr o'r byd Islamaidd i ymweld â'r Kaaba (Al-Kaaba al-Musharrafa), y gysegrfan fawr ym Mosg Al-Haram (Al-Masjid al-Haram).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ym Mecca a'i chyffiniau derbyniodd y Proffywd Mohamed, a gafodd ei eni yn y ddinas tua'r flwyddyn 570, tua hanner y sŵras sydd yn y Coran. Gelwir Mecca Umm-ul-Qura ("Y Fam-Ddinas" neu "Fam y Dinasoedd") yn y Coran, ond Caersalem oedd yn cael ei hystyried yn ganolfan y ffydd yn ystod cyfnod cyntaf cenhadaeth Mohamed. Yn ôl y Coran roedd Mecca yn drigfan i Adda ar un adeg ond diflanodd yr hen ddinas yn y Dilyw. Ar ôl hynny daeth Ibrahim (Abraham) a'i fab Ishmael i ailsefydlu'r ddinas a chodi'r Kaaba yno.
Roedd Mecca yn ganolfan grefyddol bwysig yn Arabia cyn amser Mohamed, dan reolaeth llwyth y Qurayshites, a chedwid delwau duwiau brodorol yn y Kaaba. Roedd hefyd yn ganolfan masnach sylweddol, oherwydd ei safle daearyddol, a elwai o'r fasnach mewn peraroglau a nwyddau drud eraill rhwng de-orllewin Arabia, ac yn arbennig Sheba, a dinasoedd Rhufeinig y Dwyrain Agos.
[golygu] Cysegrfannau eraill
Yn ogystal â'r Kaaba a Mosg Al-Haram y cyrchfannau pererindod eraill yng nghyffiniau Mecca yw Moqam-e-Ibrahim (cartref honedig Abraham), ffynnon Zem Zem, mynyddoedd Safa a Marwa, a Thŷ Al-Arqom.
[golygu] Darllen Pellach
- Gabriel Mendal Khan, Mahomet le Prophète (Paris, 2002). ISBN 2744156868
- André Miquel, L'Islam et sa Civilisation[:] livre I[:] Le siècle des Arabes (Paris, 1977; arg. newydd, Tunis, 1996). ISBN 9973192109
- Azmat Sheikh, The Holy Makkah and Medina (Saudi Arabia, d.d.).