Melindwr
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yng Ngheredigion yw Melindwr. Saif i'r dwyrain o dref Aberystwyth, ac mae'n cynnwys rhan ganol dalgylch Afon Rheidol, yn cynnwys pentrefi Goginan, Capel Bangor, Aber-ffrwd, Pisgah a Pen-llwyn. Ceir yma Bwerdy Cwm Rheidol, rhan o gynllun trydan dŵr Rheidol, ac mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn mynd trwy'r gymuned.
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,189.