Menter Cwm Gwendraeth
Oddi ar Wicipedia
Ym 1991, Menter Cwm Gwendraeth oedd y Fenter Iaith gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru. Daeth i fodolaeth yn dilyn bwrlwm mawr Eisteddfod yr Urdd Cwm Gwendraeth yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, ym 1989, pan benderfynodd grŵp o wirfoddolwyr lleol bod angen gweithredu ar lefel leol i atal dirywiad y Gymraeg mewn ardal a oedd â chyfran a nifer uchel iawn o siaradwyr Cymraeg.
Ym Mawrth 2002, agorwyd canolfan newydd y Fenter ym Mhontyberem, yng nghanol ardal y Gwendraeth gan yr AC Edwina Hart. Mae'r Ganolfan Adnoddau'n cynnwys caffi cymunedol, sef Caffi Cynnes a chanolfan hyfforddi ar wahân i swyddfeydd staff. Mae Menter Cwm Gwendraeth yn parhau i weithredu ar draws Cwm Gwendraeth ar brosiectau iaith yn benodol, yn ogystal ag ar ddatblygu cymunedol yn gyffredinol.
Ers lansiad Menter Cwm Gwendraeth, mae 21 o fentrau iaith lleol wedi eu sefydlu, gan ddod yn elfen bwysig o strategaeth iaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.