Pontyberem
Oddi ar Wicipedia
Pentref diwydiannol yn y Gwendraeth Fawr yw Pontyberem. Mae ardal Cyngor Cymuned Pontyberem yn gartref i 2,800 o bobl ac yn cynnwys pentref Bancffosfelen, a leolir ar lethr dwyreiniol Mynydd Llangyndeyrn. Mae tua 81% o boblogaeth y cylch yn siarad Cymraeg, sy'n ei gwneud yn un o gadarnleoedd y Gymraeg.
Ganwyd y gantores boblogaidd, Dorothy Squires mewn gwersyll ar gyrion Pontyberem.
Mae Gwenda Owen y gantores a enillodd yr Ŵyl Ban-Geltaidd i Gymru ym 1995 gyda Chân yr Ynys Werdd yn enedigol o'r pentref.
Ym Mhontyberem mae pencadlys Menter Cwm Gwendraeth, y fenter iaith gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru.