Mithridates VI, brenin Pontus
Oddi ar Wicipedia
Brenin Pontus yn Asia Leiaf rhwng 120 a 63 CC oedd Mithridates VI (Groeg: Μιθριδάτης), a elwir hefyd yn Mithridates Eupator neu Mithridates Fawr, (132 - 63 CC. Roedd yn un o elynion mwyaf ystyfnig a llwyddiannus Gweriniaeth Rhufain yn y cyfnod yma.
Roedd Mithridates VI yn fab i Mithridates V (150 CC - 120 CC). Bu ei dad farw pan oedd Mithridates yn ieuanc, ac am gyfnod ei fam Gespaepyris fu’n rheoli’r deyrnas. Tua. 115 CC diorseddodd Mithridates ei fam a’i charcharu. I sicrhau ei safle, lladdodd nifer o’i frodyr a priododd ei chwaer, Laodice.
Uchelgais Mithridates oedd cael rheolaeth dros y cyfan o ardal y Môr Du ac Anatolia. Concrodd Colchis, a gorchfygodd y Scythiaid a’u gorfodi i’w gydnabod fel arglwydd. Cytunodd i rannu Paphlagonia a Galatia gyda Nicomedes III, brenin Bithynia. Yn ddiweddarach aeth yn rhyfel rhwng Mithridates a Nicomedes ynghylch Cappadocia, ac wedi i Mithridates ei orchfygu mewn nifer o frwydrau, gofynnodd Nicomedes am gymorth Rhufain.
Parhaodd yr ymladd dan frenin nesaf Bithynia, Nicomedes IV, a choncrodd Mithridates Bithynia ac ymestyn ei awdurdod hyd y Propontis. Cafodd gefnogaeth y dinasoedd Groegaidd, yn cynnwys Athen, yn erbyn Rhufain. Gwnaeth gynghrair a Tigranes Fawr, brenin Armenia, a briododd Cleopatra, merch Mithridates.
Yn 88 CC, gorchymynodd Mithridates ladd pob Rhufeiniwr yng ngorllewin Anatolia; dywedir i 80,000 o wyr, gwragedd a phlant gael eu lladd. Ymladdwyd rhyfel rhwng Mithridates a Rhufain rhwng 88 CC and 84 CC, a gorfododd y cadfridog Rhufeinig Lucius Cornelius Sulla Mithridates i encilio o Wlad Groeg. Fodd bynnag, roedd Gaius Marius wedi cipio grym yn Rhufain, a gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates er mwyn medru dychwelyd i Rhufain.
Pan geisiodd Rhufain feddiannu Bithynia,ymosododd Mithridates, a bu rhyfel arall rhwng 83 CC a 82 CC, gyda’r cadfridogion Lucullus ac yna Gnaeus Pompeius Magnus yn ymladd yn erbyn Mithridates. Ni orchfygwyd Mithridates yn derfynol hyd y trydydd rhyfel, rhwng 75 CC a 65 CC, pan orchfygwyd ef gan Pompeius a’i orfodi i ffoi i’r Crimea. Ceisiodd godi byddin arall i ymladd yn erbyn Rhufain, ond bradychwyd ef gan ei fab, a lladdodd ei hun yn Panticapaeum. Enwyd dinas Eupatoria yn y Crimea ar ei ol.
Ceir nifer o hanesion am Mithridates. Dywed Plinius yr Hynaf ei fod yn medru siarad iaith bob un o’r ddwy genedl ar hugain oedd dan ei awdurdod. I osgoi’r perygl o gael ei wenwyno, dywedir iddo ddechrau cymeryd ychydig o wenwyn a chynyddu’r dôs yn raddol, nes nad oedd unrhyw wenwyn yn cael effaith arno.