Moelwyn Bach
Oddi ar Wicipedia
Moelwyn Bach Y Moelwynion |
|
---|---|
Llun | Moelwyn Bach ar y dde, Moelwyn Mawr ar y chwith, o Bont Croesor |
Uchder | 710m / 2,329 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mae'r Moelwyn Bach yn fynydd yn Eryri, Gwynedd. Saif Croesor i'r gorllewin iddo, Tanygrisiau i'r dwyrain a Maentwrog i'r de. Mae'r Moelwyn Mawr gerllaw iddo, fymryn i'r gogledd, a chefnen Craigysgafn yn eu gwahanu. Rhwng y ddau Foelwyn mae Llyn Stwlan.
Gellir ei ddringo o Groesor, un ai'n uniongyrchol neu trwy ddringo'r Moelwyn Mawr gyntaf ac yna mynd ymlaen dros Graigysgafn i gopa'r Moelwyn Bach.