Y Moelwynion
Oddi ar Wicipedia
Grŵp o fynyddoedd yn Eryri yw'r Moelwynion. Cyfeiria'r enw yn enwedig at ddau fynydd ucha'r grŵp, Moelwyn Mawr (770m) a Moelwyn Bach (710m). Ceir nifer o hen chwareli llechfaen yn y bryniau hyn.
Mae'r mynyddoedd yn gorwedd rhwng Cwm Ffestiniog yn y dwyrain a Nant Gwynant yn y gorllewin. I'r de mae'r Traeth Mawr, rhwng Tremadog a Phenrhyndeudraeth ac i'r gogledd ceir ardal o ucheldir gwlyb a chreigiog sy'n eu cysylltu â Moel Siabod yn y gogledd ac yn disgyn i gyfeiriad Dyffryn Lledr a Dolwyddelan i'r gogledd-ddwyrain.
[golygu] Y copaon
- Moelwyn Mawr
- Moelwyn Bach (a gysylltir i Foelwyn Mawr gan grib Craigysgafn)
- Cnicht
- Ysgafell Wen
- Moel Druman
- Allt-fawr
[golygu] Traddodiad
Dywedir i Sant Twrog daflu maen anferth o ben y Moelwynion un tro. Glaniodd ym Maentwrog lle mae i'w gweld heddiw yng nghornel yr eglwys. Maen Twrog yw'r enw arno.