Moses Griffith
Oddi ar Wicipedia
Arlunydd Cymreig oedd Moses Griffith (25 Mawrth 1747 - 11 Tachwedd 1819). Ganed ef ym mhentref Trygarn, gerllaw Bryncroes yn Llŷn. Cafodd ychydig o addysg yn ysgol rad Botwnnog. Yn 1769 cyflogwyd ef fel gwas gan Thomas Pennant. Cyn hir sylweddolodd Pennant fod ganddo dalent fel arlunydd, ac aeth Pennant a Griffith gydag ef ar ei deithiau, er mwyn iddo fedru paratoi lluniau ar gyfer ei lyfrau. Ei waith ef yw'r ysgythriadau mewn cyfrolau megis Tours in Wales.
Wedi i Thomas Pennant farw 1798 bu Moses Griffith yn gweithio i'w fab, David Pennant. Mae cryn nifer o luniau dyfrlliw o'i waith ar gael, er enghraifft yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.
[golygu] Cysylltiad allanol
- Llun dyfrlliw o Abaty Dinas Basing gan Moses Griffith, o "Casglu'r Tlysau".
- Llun dyfrlliw o Gastell Rhuddlan gan Moses Griffith, o "Casglu'r Tlysau".