Bryncroes
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan ym Mhen Llŷn, Gwynedd, yw Bryncroes. Fe'i lleolir tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberdaron.
I'r de cyfyd Mynydd Rhiw (305m). Y pentrefi agosaf yw Sarn Mellteyrn, filltir i'r gogledd, a Botwnnog, 2 filltir a hanner i'r dwyrain.
Ceir ffynnon sanctaidd hynafol o'r enw Ffynnon Fair ger yr eglwys. Ceir llecyn o'r enw Mynachdy gerllaw, sy'n awgrymu ei fod yn perthyn i'r clas enwog ar Ynys Enlli ar un adeg.
Ganwyd y golygydd a llyfrbryf William Rowlands (Gwilym Lleyn) yno yn 1802.
[golygu] Ffynhonnell
- J. Daniel, Archaeologia Lleynensis: Hynafiaethau Lleyn (Bangor, 1892)