Mwynfeydd aur Dolaucothi
Oddi ar Wicipedia
Mwynfeydd aur o’r cyfnod Rhufeinig, ac yn ôl pob tebyg cyn hynny, yn Sir Gaerfyrddin yw Mwynfeydd Aur Dolaucothi. Saif y mwynfeydd gerllaw Afon Cothi, ychydig i’r dwyrain o bentref Pumsaint, a rhwng y pentref hwnnw a phentref Caeo. Dolaucothi yw’r unig fwynfeydd aur yng Nghymru tu allan i ardal Dolgellau.
Ceir tystiolaeth archaeolegol i gloddio am aur ddechrau yma yn ystod Oes yr Efydd. Gweithiwyd y mwynfeydd ar raddfa sylweddol gan y Rhufeiniaid o tua 75 O.C. hyd tua 140. Ceir yma dystiolaeth o ddefnydd cynnar iawn o bwer dŵr i weithio morthwylion i falu’r graig a’r aur ynddi. Mae ffordd Rufeinig Sarn Helen gerllaw.
Adfywiwyd y mwynfeydd am gyfnod byr yn y 19eg ganrif, ac yn y 1930au bu ymgais i ddarganfod haenau aur newydd. Caewyd y gwaith eto yn 1938. Yn 1941 daeth yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae ar agor i’r cyhoedd.