Caeo
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng nghymuned Cynwyl Gaeo yn Sir Gaerfyrddin yw Caeo neu Caio. Saif ychydig i'r dwyrain o'r briffordd A482 gerllaw pentref Pumsaint, tua hanner y ffordd rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llanymddyfri, lle mae Afon Annell a Nant Frena yn cyfarfod.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Cynwyl. Gerllaw mae ffordd Rufeinig, ac heb fod ymhell o'r pentref mae mwynglawdd aur Rhufeinig Dolaucothi. Daliai Llywelyn ap Gruffudd Fychan diroedd yn yr ardal. Yma y ganed yr emynydd Dafydd Jones (1711 - 1777), a adwaenir fel rheol fel "Dafydd Jones o Gaeo".