Narbonne
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne-orllewin Ffrainc yw Narbonne (Catalaneg ac Occitaneg: Narbona). Saif yn département Aude yn région Languedoc-Roussillon. Ar un adeg roedd yn bothladd prysur, ond erbyn hyn mae tua 15 km o'r môr.
Sefydlwyd y ddinas fel trefedigaeth Rufeinig Colonia Narbo Martius yn 118 CC, ar y Via Domitia, y ffordd Rufeinig gyntaf yng Ngâl. Yn ddiweddarach, sefydlodd Iŵl Cesar gyn-filwyr o'i leng Legio X Gemina yno. Rhoddodd y ddinas ei henw i dalaith Rufeinig Gallia Narbonensis.
Dan y Fisigothiaid bu'n brifddinas talaith Septimania, yna am gyfnod yn rhan o Emirat Cordoba nes iddi gael ei chipio gan y Ffranciaid dan Pepin Fychan yn 759. Yn ddiweddarach daeth y ddinas yn llai pwysig, yn rhannol oherydd i Afon Aude newid ei chwrs. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 46,510.
[golygu] Pobl enwog o Narbonne
- Charles Trenet
- Léon Blum
- Sant Sébastien
- Dimitri Szarzewski