Palmyra
Oddi ar Wicipedia
Mae Palmyra (neu Tadmor) yn ddinas hynafol yn nwyrain Syria, a fu gynt yn brifddinas Ymerodraeth Palmyra.
Tyfodd Palmyra yn ystod yr ail a'r 3edd ganrif fel entrepot ar lwybr masnach carafan pwysig a gysylltai Mesopotamia (Irac heddiw) yn y dwyrain â'r Lefant ac arfordir y Môr Canoldir yn y gorllewin, gan groesi rhannau gogleddol Diffeithwch Syria.
Aeth Palmyra dan reolaeth y Rhufeiniaid yn y ganrif gyntaf ond adenillodd ei sofraniaeth yn ystod teyrnasiad y frenhines alluog ac uchelgeisiol Zenobia.
Yn sgîl cwymp Zenobia yn 272 cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid a'i dinistrio ganddynt. Cafodd ei hailadeiladu ar ôl hynny a'i cipio gan y Mwslemiaid yn 634. Ond erbyn hynny nid oedd ond cysgod o'r hen ddinas rymus a llewyrchus a dilynodd cyfnod o ddadrywiad. Heddiw mae tref fechan ger y safle ond mae'r hen ddinas ei hun yn adfeilion.
Palmyra yw un o'r enghreifftiau gorau yn y byd o ddinas glasurol, wedi'i chadw yn dda oherwydd ei safle anghysbell yn yr anialwch. Ymhlith ei hadeiladau mwyaf hynod y mae adfeilion Teml Baal, prif dduw'r ddinas, y Tetrapylon, a'r Agora. Ceir yn ogystal nifer o arysgrifau yn yr wyddor Balmyraidd (a ddatblygodd o'r wyddor Aramaeg sy'n datgelu gwybodaeth bwysig am fasnach a chrefydd Palmyra.