Paul Panton
Oddi ar Wicipedia
Noddwr llenyddiaeth Gymraeg a hynafiaethydd oedd Paul Panton (1727 - 1797). Cafodd ei eni ym Magillt, ger Treffynnon, Sir y Fflint, ond ymgartrefodd ym Mhlas Gwyn, Môn.
Roedd yn gyfaill i'r hynafiaethydd Thomas Pennant. Er yn ddi-Gymraeg ei hun, treuliodd ran helaeth ei fywyd yn ymchwilio i lenyddiaeth Gymraeg a chasglu llawysgrifau Cymreig. Roedd yn noddi'r bardd a hynafiaethydd Evan Evans (Ieuan Fardd) a chafodd ei lawysgrifau a'i nodiadau ar ei farwolaeth yn 1788. Cafodd yn ogystal gyfran fawr o bapurau a llawysgrifau Wynniaid Gwydir. Noddodd Dafydd Ddu Eryri a rhoddodd gymorth i Owain Myfyr a William Owen Pughe olygu'r Myvyrian Archaiology of Wales, a gyhoeddwyd pedair blynedd ar ôl ei farwolaeth ac a gyflwynir iddo ac eraill.
Cedwir llawysgrifau Panton yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, er 1914.