Rheilffordd Dyffryn Conwy
Oddi ar Wicipedia
Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn rheilffordd yng nghalon gogledd Cymru. Mae'n rhedeg rhwng Llandudno trwy Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog. Yn wreiddiol roedd hi'n rhan Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin, a chafodd ei hagor fesul rhan hyd 1879. Mae'n rheilffordd trac unigol rhwng y Gyffordd a Blaenau Ffestiniog sy'n cynnwys twnel rheilffordd trac unigol hiraf gwledydd Prydain (dros 2½ milltir / 4.22 km), rhwng Dyffryn Lledr a'r Blaenau. Rhwng y Gyffordd a Llandudno mae'n defnyddio trac dwbl Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru.
Y bwriad wrth agor y rheilffordd oedd dwyn llechi o chwareli Stiniog i gei Degannwy. Agorwyd y rhan gyntaf, o'r Gyffordd i Lanrwst, yn 1863. Cyrhaeddwyd Betws-y-Coed yn 1868.
Rhedir y rheilffordd heddiw gan Trenau Arriva Cymru. Mae'r golygfeydd bendigedig yn ei gwneud yn atyniad twristaidd pwysig yn yr haf ond mae hi'n parhau i fod yn wasanaeth hanfodol i bobl leol yn ogystal. Mae llifogydd Afon Conwy yn amharu ar y rheilffordd yn rheolaidd ac yn bygwth dyfodol y lein.
[golygu] Trefi a phentrefi ar y lein
- Llandudno
- Degannwy
- Cyffordd Llandudno (cysylltiad â Rheilffordd Arfordir y Gogledd)
- Glan Conwy
- Tal-y-Cafn
- Dolgarrog
- Llanrwst
- Betws-y-Coed
- Pont-y-Pant
- Dolwyddelan
- Y Bont Rufeinig
- Blaenau Ffestiniog (cysylltiad â Rheilffordd Ffestiniog)