Degannwy
Oddi ar Wicipedia
Tref fechan ym mwrdeistref sirol Conwy yw Degannwy (sillafiad amgen: Degannwy; llurguniad: Deganway). Gorwedd i'r de o Landudno, ac i'r dwyrain o dref Conwy, sydd gyferbyn iddi ar ochr arall Afon Conwy. Mae yno orsaf ar y rheilffordd sy'n rhedeg rhwng Llandudno a Chyffordd Llandudno, tua milltir i'r de.
Ceir mwy nag un cais i esbonio'r enw. Un posibilrwydd yw ei fod yn deillio o enw'r Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru. Mae Ifor Williams yn dadlau fod yr -wy terfynnol yn cynrychioli gwy sy'n golygu 'ystum, tro,' ac sy'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd (e.e. afon Elwy). Degannwy yw'r ffurf safonol a chynharaf, ond gwelir Deganwy yn aml hefyd. Clywir y ffurf Deganwa ar lafar weithiau, ac efallai taw hynny sy'n gyfrifol am y ffurf Seisnigaidd gyffredin Deganway.[1]
[golygu] Hanes
Mae'n fwyaf nodedig am Gastell Degannwy, oedd yn y chweched ganrif yn gadarnle Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd. Ymddengys mai Deganwy oedd prif lys Gwynedd yr adeg yma, ond yn ddiweddarach symudodd i Aberffraw ar Ynys Môn. Adeiladwyd nifer o gaerau ar y bryn lle saif y castell dros y canrifoedd, gan gynnwys castell Normanaidd yn 1082, oedd yn perthyn i Robert o Ruddlan. Yn ddiweddarach adeiladwyd castell yno gan Llywelyn Fawr. Chwalwyd y castell yma, a defnyddiwyd llawer o'r meini i adeiladu Castell Conwy.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Ifor Williams, Enwau Lleoedd.
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Bae Penrhyn | Betws-y-Coed | Betws yn Rhos | Bylchau | Capel Curig | Capel Garmon | Cefn-brith | Cerrigydrudion | Conwy | Craig-y-don | Cwm Penmachno | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolgarrog | Dolwyddelan | Dwygyfylchi | Eglwysbach | Gellioedd | Glasfryn | Gwytherin | Gyffin | Henryd | Llanbedr-y-cennin | Llandrillo-yn-Rhos | Llandudno | Llanddoged | Llanddulas | Llanefydd | Llanfairfechan | Llanfair Talhaearn | Llanfihangel Glyn Myfyr | Llangernyw | Llangwm | Llanrwst | Llanrhos | Llanrhychwyn | Llan Sain Siôr | Llansanffraid Glan Conwy | Llansannan | Llysfaen | Maenan | Y Maerdy | Melin-y-coed | Mochdre | Pandy Tudur | Penmachno | Penmaenmawr | Pensarn | Pentrefoelas | Pentre-llyn-cymmer | Pentre Tafarn-y-fedw | Rowen | Rhydlydan | Rhyd y Foel | Trefriw | Tyn-y-groes | Tywyn | Ysbyty Ifan |