Cookie Policy Terms and Conditions Penrhyndeudraeth - Wicipedia

Penrhyndeudraeth

Oddi ar Wicipedia

Pentref ar arfordir gogledd eithaf Meirionnydd (de Gwynedd) yw Penrhyndeudraeth gyda'r Traeth Mawr a'r Traeth Bach ar y naill ochr iddo gydag Afon Glaslyn yn ei wahanu oddi wrth Eifionydd a'r hen Sir Gaernarfon. Yn wreiddiol, roedd y pentref mewn dau blwyf, sef plwyfi Llanfrothen a Llandecwyn a hynny cyn i'r plwyf newydd gael ei greu ym 1859.

Am yn agos i dri charter canrif gwaith ffrwydiadau Cwcs a fu'n asgwrn cefn economi'r pentref: yn ddiweddarach daeth atomfa Trawsfynydd â gwaith i'w gweithwyr. Yn hanesyddol, dibynnai'r boblogaeth ar gyflogaeth a gynigiwyd gan ddiwydiant llechi Blaenau Ffestiniog a'r allforio a mewnforio deunydd crai a fyddai'n mynd drwy borthladd prysur Porthmadog. Ar lafar gwlad gelwid y pentref yn 'Penrhyn Cocos' a hynny oherwydd diwydiant pwysig casglu cocos a ddigwyddai yn yr oes o'r blaen.

Y mae arwyddocad a phwysigrwydd hanesyddol hefyd i'r pentref. Yng nghyfrifon gweision Edward I, brenin Lloegr, tra'n adeiladu Castell Harlech, gwelir sawl cyfeiriadau at drigolion cefnog y pentref. Yn ddiweddarach, bu gwŷr a gwragedd o bwysigrwydd ac arwyddoacad cenedlaethol yn tramwyo ei strydoedd. Yn hen blasty'r Hendre (sydd wedi'i leoli wrth Ysbyty Bron y Garth)yn 1648 fe anwyd Humphrey Humphreys, esgob Bangor a Henffordd yn olynol. Roedd Humphreys yn esgob diwygiedig effeithiol ac yn Gymro twymgalon: yn ol Edward Lhuyd ef oedd Cymro mwyaf ei oes. Roedd yn achyddwr, ysgolhaig a Christion nodedig. Claddwyd ei rieni - Richard Humphreys a Margaret Wynn (o deulu Cesailgyfarch, Penmorfa) ym mynwent hen eglwys Llanfrothen. Bu farw Humphreys tra'n esgob Henffordd yn 1712. Gwelir un o greiriau'r teulu yn Eglwys y Drindod Sanctaidd Penrhyndeudraeth: yno y mae hen gist dderw a gyflwynodd Richard Humphreys i Eglwys Llanfrothen tra'n warden arni yn 1690.

Mae nifer o olion Hen Gymraeg i'w weld ym Mhenrhyndeudraeth e.e. 'Pont Briwet' + Pont + pontem (Lladin), 'Briwet' 'Brued' (Brythoneg 'pont') - gweler llyfr pwysig Kenneth Jackson, Language and History in Early Britain.

Penref Cymraeg ei iaith yw Penrhyndeudraeth a chlywir y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n naturiol gan bobl o bob oed. Yn 2001 roedd 76% o'r boblogaeth yn siarad yr iaith Gymraeg.

Ni fu Penrhyndeudraeth byth yn bentref crefyddol iawn. Gwelwyd y Methodistiaid yn sefydlu eglwysi yn y pentref yn gynnar yn hanes y mudiad gyda seiadau yn cael eu sefydlu mewn myrddunod fel Cae'r Gof a Gelli Gwiail. Y mae hanes diddorol a chyffrous iawn am ddiwygwyr megis Daniel Rowlands yn cynnal oedfaon yn Nhyddyn Isaf a'r bardd a'r cymeriad hynod Dafydd Siôn Siâms yn melltithio'r grefydd newydd yn gyhoeddus cyn cael ohono droedigaeth. Fflangellodd y Methodistiaid yn ddidrugaredd a hynny cyn iddo losgi ei holl weithiau barddol beirniadol mewn coelcerth cyhoeddus ar sgwar y pentref. Mae cwpan cymun gwreiddiol y Methodistiaid hyn i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Trefi a phentrefi Gwynedd

Aberangell | Aberdaron | Aberdesach | Aberdyfi | Abererch | Abergwyngregyn | Abergynolwyn | Aberllefenni | Abermaw | Abersoch | Afon Wen | Arthog | Y Bala | Bangor | Beddgelert | Bethel | Bethesda | Betws Garmon | Blaenau Ffestiniog | Bontnewydd (Arfon) | Bontnewydd (Meirionnydd) | Botwnnog | Brithdir | Bryncir | Bryncroes | Bryn-crug | Brynrefail | Caernarfon | Carmel | Cefnddwysarn | Clynnog Fawr | Corris | Cricieth | Croesor | Cwm-y-glo | Chwilog | Deiniolen | Dinas Dinlle | Dinas Mawddwy | Dolgellau | Dolbenmaen | Dyffryn Ardudwy | Fairbourne | Y Felinheli | Y Fron | Frongoch | Ffestiniog | Ganllwyd | Garndolbenmaen | Golan | Groeslon | Harlech | Llanaelhaearn | Llanarmon | Llanbedr | Llanbedrog | Llanberis | Llandanwg | Llandwrog | Llandygái | Llanddeiniolen | Llandderfel | Llanegryn | Llanengan | Llanelltyd | Llanfachreth | Llanfaglan | Llanfair | Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) | Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) | Llanfor | Llanfrothen | Llangelynnin | Llangïan | Llangwnadl | Llaniestyn | Llanllechid | Llanllyfni | Llannor | Llanrug | Llanuwchllyn | Llanwnda | Llanymawddwy | Llanystumdwy | Llanycil | Llithfaen | Maentwrog | Mallwyd | Minffordd (Penrhyndeudraeth) | Morfa Nefyn | Mynydd Llandygái | Mynytho | Nantlle | Nant Peris | Nasareth | Nebo | Nefyn | Penmorfa | Pennal | Penrhyndeudraeth | Pentir | Pen-y-groes | Pistyll | Pontllyfni | Porthmadog | Portmeirion | Pwllheli | Rachub | Rhiw | Rhosgadfan | Rhoslan | Rhostryfan | Rhyd-Ddu | Sarnau | Sarn Mellteyrn | Talsarnau | Talybont | Talysarn | Tanygrisiau | Trawsfynydd | Treborth | Trefor | Tregarth | Tudweiliog | Tywyn | Waunfawr

Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu