Robinson Crusoe
Oddi ar Wicipedia
Nofel Saesneg o waith Daniel Defoe yw Robinson Crusoe. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1719, ac ystyrir gan rai mai hon oedd y nofel gyntaf yn Saesneg. Ffurf y llyfr yw hunangofiant y prif gymeriad, Robinson Crusoe, oedd wedi treulio 28 mlynedd ar ynys fechan yn y trofannau yn dilyn llongddrylliad.
Credir i Defoe gael ei ddylanwadu gan hanes Alexander Selkirk, a dreuliodd bedair blynedd ar ynys Más a Tierra, Chile. Efallai fod yr ynys y llongddrylliwyd Crusoe arni yn y nofel wedi ei seilio ar ynys Tobago. Dylanwad arall posibl oedd cyfrieithiad i'r Lladin neu Saesneg o waith Abubacer, Philosophus Autodidactas, oedd hefyd yn defnyddio ynys debyg fel cefndir.
Cyfeithiwyd y nofel i lawer o ieithoedd, yn cynnwys Cymraeg (Bywyd ac anturiaethau rhyfeddol Robinson Crusoe: yr hwn a fyw byw wyth mlynedd ar hugain mewn ynys anghyfanedd...., Caernarfon: H. Humphreys).