Biwmares
Oddi ar Wicipedia
Biwmares Ynys Môn |
|
Mae Biwmares yn dref yn ne-ddwyrain Ynys Môn ar lan Afon Menai. Enw Normanaidd sydd i'r dref a'i ystyr yw Morfa Deg.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd Biwmares ar safle hen bentref Llan-faes. Wedi concwest 1282-83 gan Edward y Cyntaf, bu cychwyn nifer o brosiectau gan y brenin i roi diwedd ar y Cymry. Un o'r prosiectau hyn oedd adeiladu Castell Biwmares a adeiladwyd yn 1295 a'r dref ei hun. Nid oedd yn gastell hawdd i'w gipio - gan fod modd derbyn bwyd ac arfau o'r môr. Mae'n engraifft o gastell consentrig sef o gastell o fewn castell.
Mae arch garreg Siwan (gwraig Llywelyn Fawr) â'i delw arni i'w gweld yn eglwys Biwmares.
Symudwyd trigolion Llan-faes i bentref newydd yng ngorllewin yr ynys yn y "New Borough" a ddaeth i gael ei alw yn Niwbwrch. Wedi hyn, Saeson yn unig oedd yn cael trigo tu fewn i waliau'r dref. Gydag adeiladu'r castell daeth Biwmares i fod yn brif dref Sir Fôn ac yn yr ail ganrif ar bymtheg agorwyd y Llys Sirol yno, a bu mewn defnydd hyd y 1970au.
Yn 1829 adeiladwyd carchar wedi ei gynllunio gan Joseph Hansom ym Miwmares. Yn ôl safonau'r dydd roedd y carchar hwn yn beth gyfforddus. Roedd toiled a golau nwy ym mhob cell, sydd yn hynod o fodern, gan ystyried fod carcharorion Strangeways ym Manceinion yn dal i ddefnyddio bwced yn y 1970au.
Dienyddwyd dau garcharor yn y carchar rhwng 1829 a'r 1870au pan gaewyd y carchar a'i newid i fod yn orsaf heddlu. Ym 1830 dienyddwyd William Owen am ladd ei wraig, ac yn ôl yr hanes aeth i'r crogbren dan gicio a strancio ac fe'i claddwyd y tu fewn i furiau'r carchar. Ni ddienyddwyd neb wedyn tan 1862 pan ddienyddwyd Richard Rowlands (Dic Rolant) am ladd ei dad yng nghyfraith. Bu cryn ddadlau am yr achos ac mae nifer o bobl hyd heddiw yn credu fod Rolant yn ddi-euog. Mae chwedl amdano sy'n dweud ei fod wedi addo ar y crogbren y byddai cloc yr eglwys, dros y ffordd i'r wal a oedd yn dal y crogbren, yn dweud yr amser anghywir.
[golygu] Biwmares heddiw
Nid oes swyddogaeth weinyddol mor bwysig gan Fiwmares erbyn hyn - mae cyngor yr ynys wedi symud i Langefni. Er hyn, mae Biwmares yn dal i fod yn un o brif benteithiau twristiaeth Môn, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac yn gyrchfan ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn.
Yn Eglwys Fair ym Miwmares y mae beddrod y Dywysoges Siwan, ferch y brenin John o Loegr a gwraig Llywelyn Fawr, i'w weld. Cafodd ei symud yno o adfeilion mynachlog Llan-faes.
Mae yna nifer o dai bwyta o safon, tafarndai clyd ac ambell i siop sy'n gwerthu gemwaith a hen bethau. Mae'r ysgol yn un o rai mwyaf y sir.
Mae'r A545 yn cysyllty'r dref â Phorthaethwy.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |