Sahel (Tunisia)
Oddi ar Wicipedia
- Mae hon yn erthygl am y rhanbarth yn Tunisia : gweler hefyd Sahel.
Mae'r Sahel (Arabeg: السـاحـل) yn rhanbarth daearyddol yn nwyrain Tunisia sy'n ymestyn o Gwlff Hammamet yn y gogledd i Gwlff Gabes yn y de. Weithiau cyfyngir y diriogaeth i'r ardal rhwng Gwlff Hammamet ac ardal Mahdia-El Jem i'r de. Daw ei henw o'r gair Arabeg sahel sy'n golygu "arfordir" neu "tir ar yr ymyl."
Prif ddinasoedd a threfi'r Sahel yw Sousse (dinas fwyaf yr ardal), Monastir (un o'r trefi Arabaidd hynaf yn Ifriqiya) a Mahdia (hen brifddinas Tunisia yn amser y califf Fatimid Ubayd Allah al-Mahdi, a roes ei enw i'r ddinas).
Mae'n rhanbarth cyfoethog ei hanes, sydd wedi bod yn gartref i'r Ffeniciaid (sefydlwyr Hadrumete), y Carthaginiaid (ardal enedigol Hannibal), y Rhufeiniaid (adeiladwyr amffitheatr El Jem), y Bysantiaid a'r Fandaliaid a'r Arabiaid, ynghyd â'r bobl frodorol o dras Berber.
[golygu] Dinasoedd a threfi'r Sahel
|
|
|