Sousse
Oddi ar Wicipedia
Mae Sousse (Arabeg: سوسة) yn ddinas a phorthladd yn nwyrain canolbarth Tunisia, sy'n gorwedd 140 km i'r de o'r brifddinas Tunis, ar Gwlff Hammamet (Môr Canoldir). Sousse yw prif ddinas rhanbarth y Sahel (llysenw: 'perl y Sahel') a phrifddinas talaith Sousse. Mae gan y ddinas boblogaeth o 173,047 o bobl, ffigwr sy'n tyfu i tua 400,000 pan gynhwysir ei maerdrefi allanol, sy'n ei gwneud yr ardal ddinesig 3ydd mwyaf yn Tunisia (ar ôl Tunis a Sfax). Maes awyr Sousse yw'r ail brysuraf yn y wlad.
Mae Sousse yn ddinas hynafol gyda'r mwyaf diddorol yn y wlad. Sefydlwyd dinas Hadrumete (neu Hadrumetum: gelwir Sousse yn Hadramaout gan rai o'i thrigolion hyd heddiw) gan y Ffeniciaid. Roedd yn ddinas Rufeinig lewyrchus a gwelir catacombs o'r cyfnod yno heddiw. Codwyd nifer o adeiladau gwych yn yr hen ddinas (medina Sousse), sydd ar restr safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Erbyn heddiw mae twristiaeth yn ganolog i'r economi ; er nad yw'r ddinas ei hun yn gartref i lawer o westai mawr, mae'n gorwedd yn agos i ganolfannau gwyliau Monastir a Hammamet.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Néji Djelloul, Sousse, l'antique Hadrumetum (Contraste, 2006)
- Ameur Baâziz, Si Soussa m'était contée (2005)