Salamanca
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng nghymuned ymreolaethol Castilla y León yn Sbaen a phrifddinas talaith Salamanca yw Salamanca. Saif ar Afon Tormes, ac roedd y boblogaeth yn 2006 yn 190,025. Mae'n enwog fel safle un o brifygolion hynaf ac enwocaf Sbaen ac am y nifer fawr o adeiladau hanesyddol o ddiddordeb pensaernïol.
Sefydlwyd Salamaca fel Salmantica gan lwyth Celtaidd y Vaceo. Yn ddiweddarach cipiwyd y safle gan y cadfridog Carthaginaidd Hannibal, a chafodd yr enw Helmantica. Yn y cyfnod Rhufeinig daeth yn ddinas bwysig. Yn ddiweddarach daeth yn eiddo i'r Fisigothiaid ac yn 712 cipiwyd hi gan fyddin Islamaidd. Diboblogwyd hi bron yn llwyr yn y canrifoedd nesaf, a dim ond yn y 12fed ganrif y bu cynnydd eto. Sefydlwyd y brifysgol yn 1218. Ymhlith y myfyrwyr yma bu Hernán Cortés, Miguel de Cervantes, Ignatius Loyola, Sant Ioan y Groes, Miguel de Unamuno, Mateo Aleman a'r Cymro Sant John Roberts. Ysgolheigion prifysgol Salamanca, yng Nghyngor Burgos yn 1512 a ddatganodd hawl trigolion brodorol cyfandir America i fywyd a rhyddid, efallai y datganiad rhyngwladol cynharaf o hawliau dynol.
Yn 1985 cyhoeddwyd hen ddinas Salamanca yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Yn 2002 roedd Salamanca yn Brifddinas Diwylliant Ewrop.