Salman Rushdie
Oddi ar Wicipedia
Nofelydd ac ysgrifwr Prydeinig-Indiaidd yw Syr Ahmed Salman Rushdie (Hindi: सलमान रश्दी, Wrdw: سلمان رشدی; ganwyd 19 Mehefin 1947 ym Mumbai, India). Daeth yn enwog gyda'i ail nofel, Midnight's Children (1981), a enillodd y Booker Prize. Lleolir llawer o'i waith ffuglennol yn is-gyfandir India, ond yn fwyfwy hanes hir a chyfoethog y cysylltiadau, rhwygiadau ac ymfudiadau niferus rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin yw thema ddominyddol ei waith.
Cythruddodd ei bedwaredd nofel, The Satanic Verses (1988), ymatebion treisgar o Fwslemiaid radicalaidd. Yn dilyn bygythiadau angheuol a ffatwa a ddatganwyd gan yr Ayatollah Khomeini Iranaidd yn galw am ei fradlofruddiaeth, treuliodd flynyddoedd dan ddaear, ac ymddangosodd yn gyhoeddus yn achlysurol. Pa fodd bynnag, yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae Rushdie wedi dychwelyd i fyw bywyd llenyddol normal. Gwnaethpwyd yn farchog ym Mehefin 2007[1] a arweiniodd at feirniadaeth gan Fwslemiaid byd-eang.[2].
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Rhestr anrhydeddau'r Frenhines adeg ei phen-blwydd, 2007
PDF
- ↑ (Saesneg) "Iran condemns Rushdie knighthood", BBC, 17 Mehefin, 2007.