Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd
Oddi ar Wicipedia
Sefydliad rhyngwladol a sefydlwyd ym 1949 i gefnogi'r Cytundeb Gogledd yr Iwerydd a arwyddwyd yn Washington, D.C. ar 4 Ebrill, 1949 yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd. Ei enwau swyddogol yw North Atlantic Treaty Organisation (NATO, Saesneg) neu l'Organisation du Traité de l'Atlantique Nord (OTAN, Ffrangeg).
Erthygl pwysicaf y Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yw erthygl V, sy'n dweud fod ymosodiad ar unrhyw aelod yr NATO yn golygu ymosodiad ar pawb a fydd Siarter y Cenhedloedd Unedig yn sylfaen yr amddiffyn milwrol.
Rheswm yr erthygl yw pryder am ymosodiad yr Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer. Ar ôl yr erthygl hyn mae pob ymosodiad yn golygu ymosodiad ar Unol Daleithiau America, pŵer milwrol mawrach y byd. Beth bynnag, doedd byd ymosodiad fel hyn a'r cyfnod cyntaf cymhwyswyd yr erthygl roedd ar 12 Medi, 2001, ar ôl ymosodiad terfysgol ar Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Aelod-wladwriaethau
Ers sefydliad y NATO ym 1949 neu gan blwydden eu gytuniad.
- Yr Almaen (1955)
- Unol Daleithiau America
- Gwlad Belg
- Bwlgaria (2004)
- Canada
- Denmarc
- Y Deyrnas Unedig
- Yr Eidal
- Estonia (2004)
- Ffrainc
- Gwlad Groeg (1952)
- Hwngari (1999)
- Gwlad yr Iâ
- Yr Iseldiroedd
- Latfia (2004)
- Lithwania (2004)
- Lwcsembwrg
- Norwy
- Portiwgal
- Gwlad Pwyl (1999)
- Romania (2004)
- Sbaen (1982)
- Slofacia (2004)
- Slofenia (2004)
- Y Weriniaeth Tsiec (1999)
- Twrci (1952)
Ymunwyd Gwlad Groeg a Thwrci ym mis Chwefror 1952. Ymunwyd yr Almaen dwy waith: un waith fel Gorllewin yr Almaen ym 1955 ac ar ôl uniad yr Almaen ym 1990 roedd dwyrain y wlad newydd yn aelod y NATO, hefyd. Ymunwyd Sbaen ar 30 Mai, 1982. Gwlad Pwyl, Hwngari a'r Y Weriniaeth Tsiec, aelodau blaenorol y Cytundeb Warsaw, ar 12 Mawrth, 1999.
Mae Ffrainc yn dal i fod aelor y NATO, ond mae wedi ymeddeol awdurdod milwrol ym 1966. Gwlad yr Iâ yw'r unig aelod heb fuddyn a ymunoedd ar amod fod ddim rhaid codi un.
Ymunwyd Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Romania a Slofacia, aelodau blaenorol eriall y Cytundeb Warsaw, ar 29 Mawrth, 2004.
[golygu] Hanes
17 Mawrth, 1948: Arwyddodd gwledydd Benelwcs, Ffrainc a'r Deyrnas Unedig Gytundeb Brwsel, rhagflaenydd y Cytundeb NATO.
4 Ebrill, 1949: Arwyddwyd Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yn Washington, DC.
14 Mai, 1955: Arwyddwyd Cytundeb Warsaw gan yr Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop er mwyn gwrthbwyso NATO. Gwrthwynebasant ei gilydd yn ystod y Rhyfel Oer, ond ar ôl cwymp y Llen Haearn dechreuodd Cytundeb Warsaw ddatgymalu.
1966: Penderfynodd Charles de Gaulle, arlywydd Ffrainc, ddiddymu cydweithrediad Ffrainc yng nghyngor milwrol NATO a dechrau rhaglen amddiffyn niwclear ei hun. Mewn canlyniad, symudwyd pencadlys NATO o Baris i Frwsel ar 16 Hydref, 1967.
31 Mawrth, 1991: Daeth Cytundeb Warsaw i ben (yn swyddogol ar 1 Gorffennaf).
8 Gorffennaf, 1997: Gwahoddwyd Hwngari, y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl i ymuno â NATO. Ymunasant yn 1999.
24 Mawrth, 1999: Cyrch milwrol cyntaf NATO yn ystod y Rhyfel yn Kosovo.
12 Medi, 2001: Gweithredwyd Erthygl 5 y cytundeb am y tro cyntaf erioed ar ôl yr ymosodiad terfysgol ar Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd.
21 Tachwedd, 2002: Gwahoddwyd Estonia, Latfia, Lithwania, Slofenia, Slofacia, Bwlgaria a Romania i ymuno â NATO. Ymunasant ar 29 Mawrth, 2004. Mae'n bosibl bydd Albania a Chyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn cael ymuno yn y dyfodol, ond bydd rhaid cyflawni amodau economaidd, gwleidyddol a milwrol cyn hynny. Ymgeisiodd Croatia ymuno yn 2002.
10 Chwefror, 2003: Roedd NATO yn wynebu argyfwng am fod Ffrainc a Gwlad Belg ddim yn cytuno ar fesurau i amddiffyn Twrci pe bai rhyfel yn erbyn Irac. Doedd yr Almaen ddim yn anghytuno yn swyddogol, ond roedd yn dweud bod hi'n cefnogi'r feto.
16 Ebrill, 2002: Cytunodd NATO i anfon Corfflu Cymorth Diogelwch Rhyngwladol (ISAF) o Affganistan. Dyma oedd y tro cyntaf i NATO benderfynu gweithredu y tu allan i'w ffiniau gweithredu swyddogol.
19 Mehefin, 2003: Newidwyd strwythwr milwrol NATO: Sefydlwyd Trawsnewidiad Rheolaeth y Cynghrair (Allied Command Transformation) i gymryd lle Prif Reolwr y Cynhgrair (Supreme Allied Commander).
29 Mawrth, 2004: Ymunodd Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Romania, Slofacia a Slofenia â NATO.
[golygu] Ysgrifenyddion Cyffredinol NATO
- Hastings Lionel Ismay, Barwn 1af Ismay (Y Deyrnas Unedig): 4 Ebrill, 1952 - 16 Mai, 1957
- Paul-Henri Spaak (Gwlad Belg): 16 Mai, 1957 - 21 Ebrill, 1961
- Dirk Stikker (Yr Iseldiroedd): 21 Ebrill, 1961 - 1 Awst, 1964
- Manlio Brosio (Yr Eidal): 1 Awst, 1964 - 1 Hydref, 1971
- Joseph Luns (Yr Iseldiroedd): 1 Hydref, 1971 - 25 Mehefin, 1984
- Peter Carington, 6ed Barwn Carrington (Y Deyrnas Unedig): 25 Mehefin, 1984 - 1 Gorffennaf, 1988
- Manfred Wörner (Yr Almaen): 1 Gorffennaf, 1988- 13 Awst, 1994
- Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 13 Awst - 17 Hydref 1994
- Willy Claes (Gwlad Belg): 17 Hydref, 1994 - 20 Hydref, 1995
- Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 20 Hydref - 5 Rhagfyr, 1995
- Javier Solana (Sbaen): 5 Rhagfyr, 1995 - 6 Hydref, 1999
- George Robertson (Y Deyrnas Unedig): 14 Hydref, 1999 - 1 Ionawr, 2004
- Jaap de Hoop Scheffer (Yr Iseldiroedd): 1 Ionawr, 2004 - heddiw.
[golygu] Supreme Allied Commanders Europe (SACEUR) (->Cymraeg??)
- Dwight D. Eisenhower: 2 Ebrill, 1951 - 30 Mai, 1952
- Matthew Ridgway: 30 Mai, 1952 - 11 Gorffennaf, 1953
- Alfred Gruenther: 1 Gorffennaf, 1953 - 20 Tachwedd, 1956
- Lauris Norstad: 20 Tachwedd, 1956 - 1 Ionawr, 1963
- Lyman Lemnitzer: 1 Ionawr, 1963 - 1 Gorffennaf, 1969
- Andrew Goodpaster: 1 Gorffennaf, 1969 - 15 Rhagfyr, 1974
- Alexander Haig: 15 Rhagfyr, 1974 - 1 Gorffennaf, 1979
- Bernard Rogers: 1 Gorffennaf, 1979 - 26 Mehefin, 1987
- John Galvin: 26 Mehefin, 1987 - 23 Mehefin, 1992
- John Shalikashvili: 23 Mehefin, 1992 - 22 Hydref, 1993
- George Joulwan: 22 Hydref, 1993 - 11 Gorffennaf, 1997
- Wesley Clark: 11 Gorffennaf, 1997 - 3 Mai, 2000
- Joseph Ralston: 3 Mai, 2000 - 17 Ionawr, 2003
- James L. Jones: 17 Ionawr, 2003 - heddiw
Note: starting with Ridgway all SACEUR have been simultaneously Commander in Chief, US European Command (CINCEUR) (->Cymraeg?)
|
|
---|---|
Aelodau | Yr Almaen · Gwlad Belg · Bwlgaria · Canada · Denmarc · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Estonia · Ffrainc · Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · Yr Iseldiroedd · Latfia · Lithuania · Lwcsembwrg · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · Sbaen · Slofacia · Slofenia · Y Weriniaeth Tsiec · Twrci · Yr Unol Daleithiau |
Ymgeiswyr | Albania · Croatia · Georgia · Gweriniaeth Macedonia |