Teyrnas Glywysing
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Teyrnas Glywysing yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Roedd ei phobl yn ddisgynyddion i'r Silwriaid, llwyth Brythonaidd a drigai yn ne-ddwyrain Cymru yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ychydig iawn a wyddys amdani.
Yn ôl traddodiad, enwyd Glywysing ar ôl Glywys, y brenin a'i sefydlodd. Diau y symudai ffiniau'r deyrnas o bryd i'w gilydd, ond credir fod calon y deyrnas yn gorwedd yn yr ardal rhwng afonydd Wysg a Tawe. Ar adegau roedd ffiniau'r deyrnas yn ymestyn i gynnwys Gwent ac Ergyng, ond rhywbryd cyn yr 8fed ganrif collwyd Cydweli a Gŵyr i deyrnas Dyfed.
Gwyddys enwau rhai o'r brenhinoedd cynnar, fel Ithel (c.715-145). Ymranodd y deyrnas yn fuan ar ôl ei deyrnasiad.
Yn hwyr yn y 10fed ganrif, daeth teyrnas Glwysing yn rhan o deyrnas Morgannwg neu Gwlad Morgan, a enwyd felly ar ôl ei brenin Morgan Hen.
[golygu] Ffynonellau
- Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Gwasg Prifysgol Leicester, 1982)
Teyrnasoedd Cymru | |
---|---|
Brycheiniog | Ceredigion | Deheubarth | Dogfeiling | Dyfed | Erging | Glywysing | Gwent | Gwynedd | Gŵyr | Morgannwg | Powys | Rhos | Seisyllwg |