Thomas Shankland
Oddi ar Wicipedia
Llyfrgellydd a hanesydd oedd Thomas Shankland (1858 - 1927). Roedd yn frodor o Sanclêr, Sir Gaerfyrddin. Daeth yn adanbyddus am ei waith fel llyfrgellydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac am ei ddiddordeb fel hanesydd ym mudiadau crefyddol yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif, yn enwedig y mudiadau Anghydffurfiol a'r Methodistiaid cynnar.
Ar ôl treulio cyfnod fel gweinidog gyda'r Annibynnwyr yn Y Rhyl a'r Wyddgrug, cafodd ei apwyntio'n llyfrgellydd cynorthwyol yn Llyfrgell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1905. Mawr fu cyfraniad Shankland i dwf y llyfrgell ac enwir un o'r stafelloedd yno er ei anrhydedd. Yn rhyfedd ddigon, er i nifer o bobl ei adnabod fel "Llyfrgellydd Coleg y Prifysgol", arosodd yn llyfrgellydd cynorthwyol ar hyd ei yrfa[1]
Un o ddisgyblion Shankland oedd yr hanesydd Thomas Richards, a chafodd annogaeth a chefnogaeth ymarferol ganddo i astudio gwaith y Piwritaniaid yng Nghymru. Cyhoeddodd Shankland ei hun sawl erthygl a chyfrol ar arweinwyr crefyddol yr 17eg ganrif, yn cynnwys John Miles (John Myles), Stephen Hughes a John ap John.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Thomas Richards, Rhwng y Silffoedd (Gwasg Gee, 1978).