Y Rhyl
Oddi ar Wicipedia
Y Rhyl Sir Ddinbych |
|
Mae'r Rhyl yn dref glan môr yn Sir Ddinbych (a chyn hynny yn hen Sir y Fflint), yng ngogledd Cymru. Fe'i lleolir i'r dwyrain o'r Foryd, aber Afon Clwyd. Ar hyd yr arfordir i'r gorllewin mae Bae Cinmel a 4 milltir i'r dwyrain mae Prestatyn. 2 filltir i'r de mae tref Rhuddlan. Ei phoblogaeth yw 24,889 (Cyfrifiad 2001).
Mae gan y Rhyl un o'r traethau gorau yn y gogledd sy'n denu ymwelwyr lu yn yr haf i ymdrochi a mwynhau'r "Tywod Euraidd". Mae'r Prom llydan braf yn enwog am ei barlwrs gemau, neuaddau bingo a siopau swfenîrs rhad. Yr atyniad mawr heddiw yw Canolfan yr Haul a'i thŵr trawiadol. Ar ben gorllewinol y prom ceir y ffair hwyl a'i holwynion a big dipper. Gerllaw mae'r Llyn Morwrol (Marine Lake) a'r Trên Bach i blant sy'n rhedeg oddi amgylch iddo. Yn harbwr Y Foryd lle rhed Afon Clwyd i'r môr ceir nifer o gychod pysgota a hamdden a gorsaf y bad achub. Y brif ardal siopio yw'r Stryd Fawr, sy'n ymestyn rhwng y prom a'r orsaf trenau.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ar un adeg yr oedd y Rhyl yn bentref pysgota tawel. Gwelir rhai tai o'r cyfnod hwnnw o hyd yma ac acw, yn arbennig ger y Foryd. Fel yn achos nifer o drefi glan môr eraill yng Nghymru, tyfai'r Rhyl yn gyflym yn y 19eg ganrif; gwestai preifat a thai gwely a brecwast yw llawer o'r tai a godwyd yno erbyn heddiw. Ceir ambell em anghofiedig o bensaernïaeth briciau coch Fictoriaidd o'r cyfnod hwnnw hefyd, er enghraifft Neuadd Frenhinol y Blodau, sy'n farchnad dan do heddiw, a Neuadd y Dref.
Mae'r Rhyl wedi dioddef dwy broblem fawr yn y degawdau diwethaf, sef methu cystadlu yn y farchnad gwyliau poblogaidd â'r costas a'r mewnlifiad o bobl ddi-waith o drefi gogledd-orllewin Lloegr. Mae nifer o'r hen westai a'r tai teras yn fflatiau rhad erbyn hyn ac mae'r dref yn dioddef problemau cymdeithasol oherwydd hynny.
[golygu] Enwogion
- Ruth Ellis - y ddynes olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain (1955)
- Nerys Hughes - actores a ddaeth yn adnabyddus yn y gyfres gomedi deledu The Liver Birds
- R. Tudur Jones - ysgolhaig
- Mike Peters - canwr pop
- Sara Sugarman - cyfarwyddes ffilm yn Hollywood
- Ffred Ffransis - ymgyrchydd iaith
[golygu] Cludiant
Mae gorsaf drenau Rhyl ar orsaf Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae nifer fawr o fysus lleol yn rhedeg yn y dref ei hun ac i'r trefi cyfagos.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhyl ym 1892, 1904, 1953 a 1985. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1892
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1904
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1953
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1985
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Cefn Meiriadog | Corwen | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion |