Warsaw
Oddi ar Wicipedia
Warsaw neu Warszawa (Pwyleg: Warszawa) yw prifddinas Gwlad Pwyl. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Vistula, tua 370 km o arfordir y Môr Baltig a Mynyddoedd y Carpatiau fel ei gilydd. Amcangyfrifir bod ganddi boblogaeth o tua 1,700,536 (2006).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Erbyn dechrau'r Oesoedd Canol roedd casgliad o drigfeydd ar lan Afon Vistula wedi tyfu'n dref ac yna'n ddinas erbyn y 15fed ganrif. Cyhoeddwyd Warsaw yn brifddinas y wlad yn 1611. Dioddefodd gyfnod dilewyrch ar ôl hynny ond erbyn y 18fed ganrif roedd yn ddinas lewyrchus eto.
Cafodd ei meddianu gan Rwsia yn 1794 ac yn ddiweddarach gan Ffrainc dan Napoleon, a Prwsia yn ogystal. Chwareodd ran bwysig yn yr ymgyrch dros annibyniaeth i Wlad Pwyl yn y 19eg ganrif. Ar ôl cael ei meddianu gan yr Almaenwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn brifddinas y wlad unwaith yn rhagor yn 1918 pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth.
Dioddefodd y ddinas yn enbyd yn yr Ail Ryfel Byd pan y meddianwyd gan y Natsïaid. Un o agweddau gwaethaf y rhyfel yn Warsaw oedd creu'r ghetto i'r Iddewon gan y Natsïaid (1940). Gorfodwyd 400,000 o Iddewon i fynd i fyw yn Ghetto Warsaw. Dim ond tua 100,000 oedd wedi goroesi erbyn Chwefror 1943. Bu gwrthryfel ganddynt ar y strydoedd ond fe'u gorchfygwyd gan y Natsïaid a chafodd y goroeswyr i gyd eu rhoi i farwolaeth.
Ar ddiwedd y rhyfel roedd y ddinas wedi'i dinistiro'n llwyr bron. Aethpwyd ati yn y 1950au i atgyfodi'r hen ddinas ac ailgreu rhai o'r adeiladau hanesyddol a gollwyd. Mae'r ddinas wedi tyfu'n sylweddol ers hynny ac erbyn heddiw mae Warsaw yn ddinas fywiog ac yn ganolfan ddiwylliannol, masnachol a chyfathrebol y wlad.
[golygu] Dolenni allanol
[golygu] Cyffredinol
- Warsaw ar Wikimapia
- Gwefan swyddogol dinas Warsaw
- Map o'r ddinas (Pwyleg)
- Panorama o ganol y ddinas
- Crafwyr awyr Warsaw
- Gwrthryfel Warsaw 1944
- Castell Brenhinol
- Palas Wilanów
[golygu] Orielau
- Google Maps: Warsaw
- Golygfeydd
- 360° golygfeydd o ganol y ddinas
- Lluniau hanesyddol o Ghetto Warsaw yn 1943
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.