William Price (meddyg)
Oddi ar Wicipedia
Siartydd, meddyg ac arloeswr rhyddid personol oedd William Price (1800 - 23 Ionawr 1893), a aned ger Llantrisant, Bro Morgannwg. Daeth yn aelod o'r Coleg Llawfeddygol Brenhinol.
Roedd o flaen ei amser yn ei syniadau cymdeithasol a safbwynt athronyddol. Daeth yn gymeriad adnabyddus yn ardal Pontypridd. Roedd yn llysieuwr ac yn noethlymunwr, er enghraifft. Roedd yn gefnogol i'r Siartwyr yn eu hymdrechion i ennill hawliau i'r gweithwyr a chodi eu safonau byw. Yn sgîl ymdaith y Siartwyr ar Gasnewydd ym 1839 ffoes i Ffrainc. Daeth i adnabod y bardd Heine ym Mharis.
Enwodd ei fab yn Iesu Grist, gan fwriadol dorri tabŵ crefyddol; enillodd achos llys enwog i gael yr hawl i amlosgi ei fab a fu farw yn chwe mis oed. Paratodd yr achos llys hwnnw y ffordd i ddeddfau Corfflosgiad 1902.
[golygu] Darllen pellach
- Islwyn ap Nicholas, A Welsh Heretic (1973).